Price A, Ahuja L, Bramwell C, Briscoe S, Shaw L, Nunns M et al. (2020) Research evidence on different strengths-based approaches within adult social work: a systematic review. Southampton: Adroddiad Pwnc Ymchwil Gwasanaethau Iechyd a Chyflenwi NIHR. 

Ysgrifennwyd yr adolygiad gan Professor Jonathan Scourfield

Ar ba gwestiwn mae’r astudiaeth hon yn canolbwyntio?  

Mae’r astudiaeth yn crynhoi’r ymchwil sydd wedi’i chyhoeddi ar effeithiolrwydd a gweithredu dulliau’n seiliedig ar gryfderau mewn gwaith cymdeithasol gydag oedolion yn y DU. Mae’r dulliau hyn yn gyfarwydd mewn gwasanaethau plant ac wedi derbyn cefnogaeth mewn deddfwriaeth yn ddiweddar ar gyfer gofal oedolion ond ychydig sy’n wybyddus am eu heffeithiolrwydd a chredir eu bod yn anodd eu rhoi ar waith.

Sut aethon nhw ati i’w astudio?

Cynhaliwyd adolygiad systematig – sef y dull mwyaf cadarn o grynhoi ymchwil sy’n bodoli eisoes. Edrychon nhw ar gyfnodolion academaidd, heb gyfyngiadau dyddiad nac iaith, a chynnal rhywfaint o chwilio cyfyngedig mewn llenyddiaeth ‘lwyd’ fel adroddiadau polisi, er eu bod yn cydnabod y gallent fod wedi colli rhai o’r rhain. Roedden nhw’n chwilio am astudiaethau o’r DU yn unig, sy’n ddealladwy o ystyried eu bod am i’r ymchwil fod yn berthnasol iawn i wasanaethau yn y DU, ond heb os bydd rhai astudiaethau rhyngwladol a allai fod yn berthnasol ac yn bwysig wedi’u colli. Roedd pymtheg astudiaeth yn cwrdd â’r meini prawf i’w cynnwys yn yr adolygiad, ac aseswyd bod chwech o’r rhain o ansawdd da.

Beth oedd eu canfyddiadau?

Roedd saith astudiaeth o Wneud Diogelu’n Bersonol – dull gweithredu wedi’i bersonoli sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, a’i nod yw bod diogelu’n cael ei wneud gyda, ac nid i

bobl. Roedd yr wyth astudiaeth arall yn cwmpasu amrywiol ddullau: Cydlynu Ardal Leol, Therapi’n Canolbwyntio ar Ddatrysiadau, Cynadledda Grwp Teulu, Datblygu Cymunedol ar Sail Asedau, Dull yn seiliedig ar Gryfderau ac yn Seiliedig ar Berthynas, dullau’n seiliedig ar Asedau, a Chyfweliadau Ysgogiadol.  Doedd dim un o’r astudiaethau’n caniatáu i’r ymchwilwyr ateb y cwestiwn ynghylch effeithiolrwydd.

Ar gyfer Gwneud Diogelu’n Bersonol, yr ystyriaethau o ran gweithredu oedd:

  1. Ystyriwyd ei fod yn feichus ar ymarferwyr i ddechrau ond bod manteision dros y tymor hir – e.e. gwell personoli a lleihau atgyfeiriadau a’r baich ar yr amrywiol wasanaethau sy’n gysylltiedig â diogelu yn y dyfodol. Roedd angen newid sylweddol o ran ymarfer. Roedd angen addasu’r model i leoliadau penodol, oedd weithiau’n achosi problemau o ran gweithredu.
  2. Roedd y dull hwn yn galw am newidiadau o ran diwylliant sefydliadau, gan symud oddi wrth arferion hŷn fel bod yn wrth-risg a pheidio â chynnwys pobl mewn sgyrsiau am yr hyn y maen nhw’n dymuno ei gael gan ddiogelu. Mae Gwneud Diogelu’n Bersonol yn golygu symud o waith cymdeithasol sy’n cael ei arwain gan broses i waith sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Roedd yr awdurdodau lleol llai, mwy allblyg, yn tueddu i fod yn fwy llwyddiannus yn rhoi hyn ar waith. 
  3. Roedd gwybodaeth, sgiliau, creadigrwydd a hyder y darparwyr gwasanaeth yn bwysig ar gyfer cyflwyno Gwneud Diogelu’n Bersonol. Roedd parodrwydd ymarferwyr i gofleidio’r model yn gwneud gwahaniaeth. 
  4. Roedd angen arweinyddiaeth gref ar gyfer gweithredu’n llwyddiannus – cynllunio cadarn, ymgysylltu â staff ar draws ffiniau gwasanaethau a chynnwys pobl sy’n derbyn gwasanaethau yn weithredol.

Beth yw’r goblygiadau?

Mae angen i ni gael mwy o dystiolaeth, sy’n gasgliad cyffredin iawn mewn adolygiadau systematig! Ar gyfer y pwnc hwn, mae gwir angen astudiaethau cymharol, i edrych a yw dullau sy’n seiliedig yn ymwybodol ar gryfderau mewn gwirionedd yn arwain at y gwahaniaethau cadarnhaol y bydden nhw’n honni eu bod yn eu gwneud, o’u cymharu ag ymarfer arferol. Mae’r pwyntiau ynglŷn â sut y gweithredwyd Gwneud Diogelu’n Bersonol yn ddefnyddiol i wasanaethau sydd am gyflwyno newidiadau mewn ymarfer.


Ysgrifennwyd yr adolygiad gan 

Professor Jonathan Scourfield