Cefnogi pobl ifanc mewn gofal i dderbyn gwasanaethau iechyd meddwl a lles ar-lein yn ystod COVID-19

Mae Prifysgol Caerdydd a Rhwydwaith Maethu Cymru yn cynnal astudiaeth ymchwil i edrych ar brofiadau plant a phobl ifanc mewn gofal sydd wedi derbyn gwasanaethau iechyd meddwl ar-lein yn ystod COVID-19. Y nod yw nodi a datblygu gwasanaethau a all ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc orau yn y dyfodol. 

Rydym am gyfweld plant a phobl ifanc, gofalwyr maeth a gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol. Bydd cyfweliadau’n cymryd tua awr a gellir eu cynnal ar-lein neu dros y ffôn. 

Os ydych eisiau rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth ac â diddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch â Dr Rhiannon Evans EvansRE8@caerdydd.ac.uk