Ydych chi’n gweithio gyda phobl ifanc sydd wedi cael eu camfanteisio’n droseddol?
Mae ymchwil newydd ar y gweill i ddatblygu pecyn cymorth. Mae tîm ymchwil o CASCADE yn cynnal prosiect ymchwil a ariennir gan Ymchwil Gofal Iechyd Cymru mewn partneriaeth â Barnardo’s. Ei nod yw datblygu pecyn cymorth sy’n gwella ymatebion gwasanaeth a chymunedol i bobl ifanc sydd mewn perygl neu’n ymwneud â chamfanteisio troseddol ar blant. Mae’r tîm ymchwil yn ceisio cymorth gan ymarferwyr sydd â phrofiad o gefnogi pobl ifanc sydd wedi cael eu camfanteisio’n droseddol ac a fyddai’n barod i:
1. Gymryd rhan mewn cyfweliad 30 munud ynglŷn â sut mae pobl ifanc yn cael eu targedu, pa weithgareddau maen nhw’n cymryd rhan ynddynt a pha fathau o gefnogaeth sy’n ddefnyddiol neu’n anfuddiol a / neu
2. Gefnogi casglu data gyda phobl ifanc sydd, neu sydd wedi cael eu camfanteisio’n droseddol, rhieni a / neu ofalwyr.
Mae’r tîm wedi creu pecyn gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc y gellir ei gyflwyno gan aelod o’r tîm ymchwil neu’r ymarferydd, gan ddibynnu ar ddewis y person ifanc.
Defnyddir y data hwn i lywio dyluniad y pecyn cymorth. Bydd y pecyn cymorth yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru yn ystod Hydref 2021. I gael mwy o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â Nina Maxwell (MaxwellN2@Caerdydd.ac.uk).