Rydym wir yn gwerthfawrogi eich ymrwymiad i’n helpu i bontio’r bwlch rhwng ymchwil, ymarfer a pholisi. Dyma pam rydyn ni’n galw arnoch chi. Os ydych chi’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol plant, mae arnom angen eich barn ar ymarfer gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Bydd yr arolwg yn cymryd 15 munud o’ch amser, ond bydd eich cyfraniad yn amhrisiadwy i’n helpu i ddeall amrywiadau amlwg yn nifer y plant mewn gofal rhwng awdurdodau lleol. Hefyd, cewch eich cynnwys mewn raffl fawr gydag aelodau eraill yn eich awdurdod lleol i ennill £250 i elusen plant o’ch dewis.
Ynglŷn â’r astudiaeth
Mae nifer y plant mewn gofal yng Nghymru wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae gwahaniaethau rhwng cyfraddau ymhlith awdurdodau lleol. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod cyfran sylweddol o’r amrywiad hwn yn ganlyniad gwahaniaethau mewn ymarfer. Ein nod yw deall ffactorau sy’n dylanwadu ar arfer o’r egwyddorion elfennol gan gynnwys gwahaniaethau rhwng awdurdodau lleol. Mae’r arolwg hwn wedi’i gynllunio ar gyfer gweithwyr cymdeithasol, rheolwyr ac uwch reolwyr gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.
Ariennir yr astudiaeth hon gan Lywodraeth Cymru a’i chynnal gan Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bydd eich ymatebion yn anhysbys ac ni fydd awdurdodau lleol unigol yn cael eu nodi yn ein hadroddiad terfynol. Llawer o ddiolch ymlaen llaw. Edrychwn ymlaen yn fawr at glywed eich barn i’n helpu i wneud dyfodol gwell i blant yng Nghymru.