Parchu hunaniaethau plant a perthnasau mewa mabwysiadu.

I’r mwyafrif helaeth o blant, mae mabwysiadu’n creu perthnasoedd gydol oes ac ymdeimlad o berthyn yn y teulu mabwysiadol. Ond mae mabwysiadu hefyd yn golygu gwahanu’r plentyn yn gyfreithiol o’r teulu biolegol, ac yn aml colli perthnasoedd allweddol gydag aelodau o’r teulu biolegol a rhai eraill, gan gynnwys gofalwyr maeth, sydd wedi cael rolau pwysig ym mywyd y plentyn. Gyda hyn daw colli hunaniaeth y plentyn fel aelod o gymuned ei deulu biolegol. Gall pob un o’r colledion hyn gael effaith gydol oes. Bydd y cyflwyniad hwn yn archwilio’r colledion hyn a’r ffyrdd y gallent gael eu lleddfu, gan gynnwys rôl rhieni mabwysiadol wrth ddarparu sylfaen ddiogel y gall plant archwilio eu hunaniaethau a’u perthnasoedd ohoni. 

Bydd y ddarlith yn seiliedig ar bennod mewn llyfr a ysgrifennodd yr Athro Neil yn ddiweddar.

Beek, Mary and Neil, Elsbeth (2020) Respecting children’s relationships and identities in adoption. In: The Routledge Handbook of Adoption. Routledge, Taylor & Francis Group, Abingdon and New York, pp. 76-89. ISBN 978-1-138-36250-5 

A gyflwyniad gan

Beth Neil
Athro
Prifysgol Dwyrain Anglia