Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

12 Gorffennaf 2022
10.00am – 4.00pm
Ar-lein ar Zoom

Diben y cwrs agored hwn yw rhoi’r cyfle i ystyried beth yw arferion da wrth asesu perthnasoedd rhwng oedolion. Byddwch yn archwilio eich gwerthoedd a’ch rhagdybiaethau eich hun yn ogystal ag ystyried pwysigrwydd arddulliau ymlyniad; cymhelliad; rhyw a rhywioldeb; a cholled ac anffrwythlondeb.

Erbyn diwedd y dydd, byddwch wedi dysgu sut i:

  • Ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o ddeinameg perthnasoedd rhwng oedolion
  • Ystyried materion a allai godi o fewn perthnasoedd agos
  • Datblygu meddwl beirniadol ac arferion myfyriol wrth gwblhau asesiadau

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer timau o weithwyr cymdeithasol ac eraill sy’n asesu darpar rieni mabwysiadol a gofalwyr maeth.

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.