Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

12 Gorffennaf 2022
11.30am – 1.00pm
Ar-lein ar Zoom

Yn aml, nid yw gofalwyr maeth sy’n berthnasau (personau cysylltiedig) yn dewis bod yn ofalwyr maeth, ond mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu hasesu, eu goruchwylio a’u cefnogi wrth faethu er mwyn sicrhau y gall plentyn mewn gofal aros mewn lleoliad sy’n cael ei reoleiddio. Am lawer o resymau, gall fod yn anodd cymeradwyo rhai gofalwyr maeth sy’n berthnasau, ac mae’r ‘lleoliad’ yn dod yn un anghyfreithlon neu’n anrheoleiddiedig.

Yn y gweminar hwn, bydd Alexandra Conroy-Harris, Ymgynghorydd Cyfreithiol ac Ann Horne, Ymgynghorydd Gofal gan Berthynas, y ddwy ohonynt o CoramBAAF, yn archwilio’r fframwaith cyfreithiol a rheoleiddiol a all roi bod i leoliadau anrheoleiddiedig. Byddant hefyd yn ymchwilio i atebion cyfreithiol posibl ac yn ystyried arfer gorau o ran cymeradwyo gofalwyr maeth sy’n berthnasau yng nghyd-destun safonau gofynnol cenedlaethol, gorbryder proffesiynol a’r broses panel, gan gynnwys yr angen am gynlluniau cymorth cadarn.

Mae’r gweminar wedi’i anelu at reolwyr ym maes gwaith cymdeithasol, gweithwyr cymdeithasol sy’n oruchwylwyr, gweithwyr cymdeithasol plant, cadeiryddion panel, gofalwyr maeth, mabwysiadwyr a gweithwyr proffesiynol eraill.

Aelodau: AM DDIM (peidiwch ag anghofio mewngofnodi i’ch cyfrif i dderbyn eich gostyngiad)
Y rhai nad ydynt yn aelodau: £20 + TAW

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.