Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

11 Gorffennaf 2022
10.00am – 4.00pm
Cwrs Agored Ar-lein

Yn ystod achosion gofal, gofynnir mwy a mwy i ofalwyr maeth ofalu am riant a’i blentyn a chyfrannu at y broses o asesu capasiti rhianta. Mae trefniadau rhiant a phlentyn yn gymhleth ac yn cynnwys gwahanol dasgau a chyfrifoldebau.

Bydd y cwrs hwn yn ystyried rôl allweddol y gofalwr maeth yn y gwaith o hwyluso trefniadau rhiant a phlentyn a sicrhau canlyniadau llwyddiannus i blant. Bydd hefyd yn esbonio rôl yr asiantaeth a’r gweithiwr cymdeithasol sy’n goruchwylio yny y gwaith o fonitro, adolygu, gwerthuso a chefnogi gofalwyr maeth, wrth sicrhau bod ymarfer yn dryloyw ac yn cydymffurfio â’r gyfraith.

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at ofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol sy’n atgyfeirio ac yn asesu, gweithwyr cymdeithasol sy’n rhoi cymorth i deuluoedd a gweithwyr cymdeithasol sy’n goruchwylio.

Deilliannau dysgu:

  • Deall y seiliau cyfreithiol a rheoleiddiol ar gyfer trefniadau rhiant a phlentyn
  • Cydnabod rolau a chyfrifoldebau’r gofalwr maeth a’r rhiant
  • Ystyried negeseuon sy’n deillio o ymchwil a nodi’r agweddau penodol sy’n gysylltiedig â chanlyniadau llwyddiannus

Ystyried sut mae materion sy’n ymwneud â diogelu’n cael eu rheoli

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.