Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
7 Medi 2022
12:30 – 13:30
Mae Leicestershire Cares yn falch iawn o gael cwmni Josh MacAlister, Cadeirydd yr Adolygiad Annibynnol o Ofal Cymdeithasol Plant yn Lloegr, wrth drafod canfyddiadau ac argymhellion yr Adolygiad a’r hyn y maent yn ei olygu i ymarfer yng Nghaerlŷr, Swydd Gaerlŷr a Rutland.
Yn adroddiad yr Adolygiad, daeth Josh MacAlister i’r casgliad canlynol: “Mae’r foment hon yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i bwyso’r botwm ail-osod ar ofal cymdeithasol plant. Yr hyn sydd ei angen arnom yw system sy’n rhoi cymorth dwys i deuluoedd mewn argyfwng, sy’n gweithredu’n bendant mewn ymateb i gamdriniaeth, sy’n datgloi potensial rhwydweithiau teuluol ehangach i fagu plant, sy’n rhoi perthnasoedd agos gydol oes wrth wraidd y system ofal ac sy’n gosod y sylfeini ar gyfer bywyd da i’r rhai sydd wedi bod mewn gofal. Yr hyn sydd gennym ar hyn o bryd yw system sy’n cael ei gwyro fwyfwy tuag at ymyrraeth mewn argyfwng; mae canlyniadau hyn ar blant yn parhau i fod yn annerbyniol o wael a’r costau’n parhau i godi. Am y rhesymau hyn, nid oes modd osgoi’r angen i wneud newidiadau helaeth.” Gwnaeth yr Adolygiad fwy na 80 o argymhellion i gyd i wella gofal cymdeithasol plant.
Yn y gweminar hwn, bydd Josh MacAlistair yn crynhoi prif argymhellion yr Adolygiad ac yn ateb cwestiynau ynghylch sut y gallai’r rhain effeithio ar gymorth lleol i blant a phobl ifanc.
Yn gwmni i ni hefyd fydd: Deborah Taylor, Dirprwy Arweinydd Cyngor Swydd Gaerlŷr a’r Aelod Arweiniol dros Blant a Theuluoedd; a Charlotte Robey-Turner, Pennaeth Plant a Phobl Ifanc, Leicestershire Cares.Dyma gyfle gwych i ymarferwyr, llunwyr polisïau, myfyrwyr a phobl ifanc gael gwybod rhagor am oblygiadau’r Adolygiad a thrafod yr hyn y gallant ei olygu’n lleol.
Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.