Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
22 Gorffennaf 2022
10.00am – 4.00pm
Ar-lein ar Zoom
Yr Adroddiad am Gynnig Cartref Sefydlog i Blant (CPR) yw’r brif ddogfen y mae Gwneuthurwr Penderfyniadau’r Asiantaeth yn ei defnyddio er mwyn dod i benderfyniad a ddylai’r plentyn dan sylw ‘gael ei fabwysiadu’. Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi gwybodaeth sy’n galluogi paneli mabwysiadu i gytuno ar eu hargymhellion pan fydd plant yn cael eu mabwysiadu gyda chaniatâd eu rhieni biolegol.
Bydd y cwrs agored hwn yn helpu gweithwyr cymdeithasol i ddeall cynnwys, diben a swyddogaeth yr adroddiad, arferion da wrth ymgymryd ag ef a sut y gellir ei ddefnyddio i roi darlun llawn o daith ac anghenion pob plentyn.
Bydd y sesiwn yn rhoi’r cyfle i:
- gael dealltwriaeth o fabwysiadu fel taith gydol oes
- codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd yr adroddiad CPR
- deall diben a swyddogaeth yr adroddiad
- bod yn ymwybodol o bwy fydd yn darllen yr adroddiad
- ystyried rhai o’r rhwystrau a’r heriau sy’n gysylltiedig â pharatoi’r adroddiad
- bod mewn gwell sefyllfa i ysgrifennu adroddiad rhagorol
I weithwyr cymdeithasol, gall myfyrio ar y sesiwn hon gyfrannu at eich datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).
Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.