Yn 2022, lansiodd Kidscape ‘Help with Bullying and Relationships: A Kidscape Guide for Children and Teenagers’. Mae’n ganllaw ymarferol a defnyddiol i helpu plant a phobl ifanc.

Yn y canllaw, trafodir pethau pwysig, fel beth y gallwch ei wneud os ydych yn cael eich bwlio, sut y gallwch gefnogi unigolion eraill, beth i’w wneud os mai chi sydd wedi bwlio rhywun arall, perthnasoedd cadarnhaol, ffrindiau a ffug-ffrindiau. 

Lluniwyd y llyfryn hwn er mwyn helpu plant a phobl ifanc i deimlo’n hapus ac yn ddiogel yn yr ysgol, yn y gymuned ac ar-lein. 

Mae cost fechan i’r llyfryn. Mae’r holl elw a godir yn helpu Kidscape i gefnogi rhagor o blant y mae bwlio’n effeithio arnynt.

Rhagor o wybodaeth: gwefan Kidscape