Dros y pedair blynedd ddiwethaf, mae Rhaglen Polisi Plentyndod yr Academi Brydeinig wedi ceisio ail-fframio trafodaethau polisi ynghylch plentyndod a chwalu seilos academaidd, polisi a phroffesiynol er mwyn archwilio cysyniadau newydd ynghylch plant wrth lunio polisïau. Mae’r rhaglen bellach yn tynnu tua therfyn yr ail gam a’r cam olaf, a chaiff yr adroddiad terfynol ei gyhoeddi yr haf hwn. 

Mae’r ail gam wedi bod yn canolbwyntio ar dair thema graidd:

  • Llais a chyfranogiad plant
  • Ymagweddau at bolisi’n seiliedig ar hawliau
  • Cydbwyso safbwyntiau bod yn blentyn a dod yn oedolyn. 

O fewn thema llais a chyfranogiad plant, rydym wedi archwilio sut y gellir cynnwys lleisiau amrywiol plant mewn polisi, a sut y gall lleisiau plant gael eu clywed yn fwyaf effeithiol gyda’r bobl sy’n gweithio ym maes polisi yn gweithredu arnynt. Rydym ni hefyd wedi ceisio ymgorffori lleisiau a chyfranogiad plant yn ein gweithgareddau ein hunain, er enghraifft trwy gymryd rhan mewn trafodaeth banel a gweithdy, a thrwy gyfres o sesiynau a gynhaliwyd gyda phlant oedd yn archwilio barn plant ar eu hawliau ac ar faterion polisi yn ehangach, i gyd-fynd a bwydo i mewn i’n labordy polisi ar hawliau plant ym mhresenoldeb grŵp o arbenigwyr hawliau. 

Un agwedd ar ein gwaith ar lais a chyfranogiad plant fu ystyried sut mae polisi yn cael ei gyfleu i blant. Yn ein gweithdy Covid-19 a Phlentyndod, oedd yn tynnu ar ganfyddiadau o waith Degawd COVID yr Academi, dywedodd plant fod negeseuon polisi clir yn bwysig iddynt a bod angen cyflwyno hyn mewn ffordd y byddant yn ei deall. Pwysleisiodd plant yn y gweithdy bwysigrwydd cael gwybodaeth glir am faterion fel cau ysgolion a chanslo arholiadau, gan ddweud y gall peidio â chael yr eglurder hwn achosi pwysau ychwanegol ac effeithio’n negyddol ar iechyd meddwl.

Gyda hyn mewn golwg, roeddem yn awyddus i gynhyrchu rhai allbynnau wedi’u hanelu’n benodol at blant fel rhan o’r rhaglen plentyndod. Llyfryn yw ein hallbwn cyntaf addas i blant, Impact of the COVID-19 pandemic on children and young people, yn seiliedig ar drafodaeth yn y gweithdy Covid-19 a phlentyndod a grybwyllwyd uchod. Daeth y gweithdy hwn ym mis Mai 2021 ag ymchwilwyr, unigolion sy’n gweithio ym maes polisi, a sefydliadau anllywodraethol, yn ogystal â nifer dethol o blant, ynghyd i drafod effeithiau’r pandemig parhaus ar bedair agwedd ar fywydau plant yn y DU. Yr agweddau dan sylw oedd addysg, iechyd meddwl a chorfforol, bywyd teuluol, a pherthnasoedd cymdeithasol, chwarae a chreadigrwydd.

Yn ystod cam olaf y rhaglen, rydym ni’n bwriadu cynhyrchu fersiynau addas i blant o rai o allbynnau eraill y rhaglen polisi plentyndod, gan gynnwys crynodeb gweithredol yr adroddiad plentyndod terfynol. Os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu adborth ar ein llyfryn cyntaf addas i blant, neu ar unrhyw agwedd ehangach ar y rhaglen polisi plentyndod, cysylltwch â ni: childhood@thebritishacademy.ac.uk

Yr Athro y Farwnes (Ruth) Lister o Burtersett CBE FBA
Cadeirydd, Rhaglen Polisi Plentyndod yr Academi Brydeinig


Ewch i dudalen ffocws Teulu a Chymuned Rhaglen Polisi Plentyndod yr Academi Brydeinig i gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen.