Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
Dydd Sadwrn, 19 Tachwedd 2022
9.30am – 4.00pm
Amgueddfa Cymru, Sain Ffagan, Caerdydd
Mae Plant yng Nghymru yn gyffrous i wahodd pob plentyn a pherson ifanc o bob rhan o Gymru i fynychu Gwyl Cymru Ifanc ar ddydd Sadwrn, 19 Tachwedd 2022. Byddwn ni’n treulio’r diwrnod yn dathlu Diwrnod Byd-eang y Plant yn Amgueddfa Cymru, Sain Ffagan o 9.30am tan 4pm, gan ganolbwyntio ar bwysigrwydd chwyddo lleisiau plant a phobl ifanc ar y materion sy’n bwysig iddyn nhw.
Mae tîm Cymru Ifanc wedi bod wrthi’n ofalus yn trefnu diwrnod yn llawn gweithdai cyffrous a rhyngweithiol, trafodaethau ac adloniant byw, yn arbennig i bobl ifanc Cymru eu mwynhau ac ymwneud â nhw.
Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.