Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
24 Gorffennaf (24/7) yw Diwrnod Ymwybyddiaeth y Samariaid, am eu bod yma i wrando 24/7. Ar y dyddiad hwn a thrwy gydol mis Gorffennaf, byddant yn cynnal ein hymgyrch Siaradwch â Ni i godi ymwybyddiaeth ac i atgoffa pobl eu bod yma ar gyfer unrhyw un sydd angen clust i wrando.
Bob blwyddyn ym mis Gorffennaf, mae canghennau’r Samariaid yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon yn cynnal digwyddiadau lleol i godi ymwybyddiaeth bod y Samariaid yma ddydd a nos i wrando ar unrhyw un sy’n cael trafferth ymdopi.
Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.