Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

25 Gorffennaf 2022
1.00pm – 3.00pm
Ar-lein ar Zoom

Mae’r cwrs agored hwn yn cynnig cyflwyniad i’r cysyniad o Ymwybyddiaeth Ddiwylliannol a’r hyn mae hyn yn ei olygu yng nghyd-destun gwaith maethu, perthnasau a mabwysiadu. Mae’r sesiwn hon yn trin a thrafod yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i ategu ymwybyddiaeth ddiwylliannol a’i nod yw cynyddu hyder ymarferwyr wrth weithio ym maes amrywiaeth a gwahaniaeth.

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.