Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
Dydd Iau, Awst 11eg
7.00 pm – 8.30 pm
Digwyddiad ar-lein
£15 y pen
Mae’r hyfforddiant wedi’i gynllunio i roi gwell dealltwriaeth i rieni a gofalwyr o’r byd ar-lein fel y gallant gefnogi eu plant o ran y risgiau sy’n ymwneud a’r byd hwn, ac annog defnydd cadarnhaol ohono. Mae’r gweithdy hwn yn ddelfrydol ar gyfer grwpiau rhieni a gofalwyr, ond hefyd Cymdeithasau Rhieni ac Athrawon, grwpiau cymunedol a gweithleoedd.
Bydd cyfranogwyr yn dysgu am gynnwys niweidiol ar-lein, preifatrwydd a diogelwch, seiberfwlio, gemau cyfrifiadurol, ffrydio byw, meithrin perthynas amhriodol, hunanddelwedd a hunaniaeth, apiau a chyfryngau cymdeithasol poblogaidd, iechyd, lles a ffordd o fyw a sut i wneud pethau’n fwy diogel yn y cartref.
Bydd yr hyfforddiant yn eich helpu i:
- Ddeall sut beth yw’r byd ar-lein i blant a phobl ifanc
- Adnabod ac ymateb i risgiau ar-lein
- Siarad â’ch plentyn am risgiau ar-lein
- Deall sut i gadw’ch plentyn yn ddiogel ar-lein
- Rhannu eich profiadau a dysgu gan rieni a gofalwyr eraill
- Deall ble i gael help
I gofrestru grŵp neu am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen digwyddiad Kidscape neu ebostiwch programmes@kidscape.org.uk.
Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.