Yr Athro Tracey Loughran, y Dr Kate Mahoney a’r Dr Daisy Payling (prosiect Body, Self and Family) luniodd y blog hwnDyma’r darn gwreiddiol: University of Essex Blogs.

Rydyn ni newydd gyhoeddi pecyn cymorth o’r enw Bodies, Hearts, and Minds: Using the Past to Empower the Future. Mae’n defnyddio ffynonellau hanesyddol i helpu pobl ifanc i feddwl yn wahanol am eu lles teimladol a chorfforol ar hyn o bryd a’u gallu i newid yn y dyfodol.

Mae’r pecyn yn cynnwys gweithgareddau y gall pobl ifanc eu cyflawni ar eu pennau eu hunain neu mewn grwpiau. Mae wedi’i ddidoli yn ôl themâu: ‘Generations’, ‘Growing Up’, ‘Body Image and Self-Expression’, ‘Sex Education’. Mae rhestr o eirfa bwysig, rhestr o adnoddau i helpu pobl ifanc i ddechrau ymgyrchu a rhestr o fudiadau sy’n gallu eu helpu i ddatrys unrhyw broblemau.

Ynghyd â’r pecyn, mae adnoddau ar gyfer arweinwyr grwpiau ac athrawon. Mae canllawiau gweithgareddau’n rhoi trosolwg hanesyddol byr, awgrymiadau ar gyfer cynnal sesiynau a negeseuon defnyddiol. At hynny, mae taflenni’n rhoi amcanion dysgu a chysylltiadau â’r cwrícwlwm ynghylch pynciau addysg bersonol, cymdeithasol ac iechyd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.


Bu angen tipyn o amser a chymorth gan ddigon o bobl i lunio’r pecyn. Pan oeddwn i’n cyflwyno cais am arian i Ymddiriedolaeth Wellcome ar gyfer y prosiect yn 2017, doedd dim clem gyda fi ynghylch sut mae ymgysylltu â’r cyhoedd – Beth roeddwn i am ei wneud? Â phwy roeddwn i am gysylltu? Beth roeddwn i’n gallu ei wneud?

Roedd yn galonogol siarad â ffrindiau angerddol, brwdfrydig a chreadigol am eu gwaith (er y gallai cryfder eu hymroddiad ac ehangder eu campau godi braw). Dangosodd CAER Heritage Project a SHARE with Schools gan Dave Wyatt, gwaith creadigol Dawn Mannay ymhlith teuluoedd a phobl ifanc fu o dan ofal ac AGENDA toolkit EJ Renolds ynghylch perthnasoedd cadarnhaol faint y byddai modd ei wneud ar lawr gwlad pe bai agwedd ddigon penderfynol.

Hyd yn oed ar ôl y sgyrsiau hynny, roedd amheuon gyda fi. Doeddwn i ddim yn siŵr faint y gallwn ei wneud – doeddwn i erioed wedi bod y tu allan i’r byd academaidd. Doeddwn i ddim yn siŵr beth y dylwn i ganolbwyntio arno, chwaith. Roedd Dave, Dawn, ac EJ yn gryf o’r farn y dylech chi gydio mewn rhywbeth sy’n bwysig i chi.

Sylweddolais i hynny ar ôl peth amser. Gwelais i faint o amser roeddwn i wedi’i dreulio eisoes ynghylch trafod pethau roedd o bwys mawr imi – mewn modiwl am hanes rhywedd, rhywioldeb ac iechyd ym Mhrydain yn ystod yr 20fed ganrif pan oeddwn i’n fyfyriwr israddedig. Yn y modiwl hwnnw, ceisiais gyflwyno i fyfyrwyr bynciau fyddai’n taro tant yn eu plith ac yn eu helpu nhw i bennu amryw ffyrdd o ymdopi â’r byd mawr. Beth am geisio cyrraedd pobl iau mewn ffyrdd tebyg?

***

Newidiodd y nod canolog hwn erioed. Ehangodd cwmpas y pecyn yn fawr dros y blynyddoedd nesaf, fodd bynnag, o ran faint y gallai ei gyflawni. Cyfrannodd Daisy Payling a Kate Mahoney, ymchwilwyr ôl-ddoethurol prosiect Body, Self and Family, ddigon o syniadau, egni a chreadigrwydd. Yn aml, byddwn i yn y cefndir wrth iddyn nhw fwrw ymlaen â gwaith llunio’r pecyn. Mae ffurf derfynol y pecyn yn wir gywaith.

Mae arno ôl pob un o’r bobl a’r cyrff a gydweithiodd â ni, hefyd. Daisy luniodd weithgareddau yn ystod y canlynol a’u profi: Digital Arts Festivalthe Being Human FestivalAnnual LGBTQ+ History and Archives Conference, the Royal College of Nursing Library and Archives/Surgery & Emotion Valentine’s Late. Aeth Kate i Gaerdydd i gynnal grŵp ffocws gydag elusen ACE (Gweithredu yng Nghaerau a Threlái). Treuliodd sawl noswaith yn Swydd Essex gan lunio gweithgareddau tlodi misglwyf a phrotestio ymhlith grwpiau geidiau a disgyblion ysgol uwchradd. Wrth drin a thrafod y gwahanol gyd-destunau hynny, gallen ni adlunio a mireinio cynnwys y pecyn.

O ganlyniad i weithio gyda’r grwpiau hynny, roedd angen wynebu problemau anodd. Roedden ni am i’r pecyn ddangos faint o ormes sydd ac oedd yn ein cymdeithas. Mae hynny’n hanfodol i ddilysu brwydrau yn erbyn hiliaeth, homoffobia a rhywiaeth. At hynny, roedden ni am ddathlu lleisiau a delweddau amryfal fel y gallai pobl ifanc eu hadnabod eu hunain yn y pecyn a deall eu harddwch a’u cryfder.

O ganlyniad i gynnwys ffynonellau hanesyddol, roedd yn arbennig o anodd cadw’r ddysgl yn wastad rhwng y nodau hynny. Gwelir anghydbwysedd grym trwy absenoldeb cynrychioli yn y diwylliant torfol. Sut y gallen ni ddangos hynny yn y pecyn? O nodi ambell eithriad ymhlith y merched gwahanrywiol croenwyn a’i chynnwys heb sylwadau, bydden ni’n cyfleu darlun camarweiniol na fyddai’n tynnu sylw at hiliaeth a homoffobia’r gorffennol. O drafod dioddefaint rhai carfanau heb nodi dim byd arall, fodd bynnag, bydden ni’n colli ansawdd eu hunaniaeth a’u profiadau.

Bydden ni’n wynebu materion o’r fath bob tro gerbron gwahanol gynulleidfaoedd. Wrth iddyn nhw ofyn cwestiynau a sôn am eu profiadau, bydden ni’n dod i ddeall rhagor am ein cyfrifoldebau ac am bosibiliadau’r pecyn. Cynhalion ni weithdy fis Chwefror 2020 i hel rhagor o adborth am sut y dylen ni drin a thrafod y cwestiynau hynny. Fe roes Dawn Mannay, Priya MistryKhadija Osman ac Alison Twells gynghorion gwerthfawr yn sgîl eu profiad o waith creadigol, celfyddydol a hanesyddol gyda phobl ifanc.

Ein cam nesaf oedd hel adborth mwy ffurfiol ymhlith y rhai fyddai’n defnyddio’r pecyn — pobl ifanc ac arweinwyr grwpiau, gan gynnwys athrawon. Roedd yn anos o achos dechrau cyfnod clo fis Mawrth 2020. Yn ffodus, roedd llysgenhadon ifanc iechyd y meddwl Healthwatch Essex yn fodlon treialu’r pecyn arfaethedig. Roedd eu hadborth yn galonogol iawn, er iddo beri inni wynebu rhai anawsterau ychwanegol – nid lleiaf y byddai angen deunydd ar gyfer pawb, nid dim ond merched.

Roedd yr athrawon yn gwybod mwy na ni, hefyd. Awgrymodd Matthew Eggerton, athro uwchradd profiadol iawn yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, fod angen deunyddiau ychwanegol er mwyn i’r pecyn fod yn adnodd gwirioneddol ddefnyddiol. Yn sgîl ei gynghorion, penderfynon ni lunio lawlyfrau gweithgareddau yn ogystal â phennu amcanion dysgu a chynnwys linciau a fyddai’n helpu i drefnu a chyflwyno gwersi yn unol â’r cwrícwlwm.

Yn ystod camau olaf y llunio, gofynnwn ni am weithgareddau a allai lenwi’r bylchau yn ein gwybodaeth hanesyddol – ynghylch profiadau dynion ifanc o iechyd a lles, yn bennaf. Cyfrannodd Rich Hall weithgareddau ar genedlaethau ym Mhrydain ar ôl yr Ail Ryfel Byd yn sgîl ei ymchwil i berthynas tadau â’u meibion; defnyddiodd Mark Anderson ei arbenigedd ym maes gwallt dynion i lunio gweithgaredd ar wallt, ysgolion ac ystrydebau ac fe roes Katherine Jones weithgareddau ar wrywdod, teimladau ac addysg rhyw.

Darllenon ni am Prim ‘N Poppin’ tua’r adeg honno, hefyd. Yn y prosiect hwnnw, adluniodd Julia Comita a Brenna Drury hen hysbysebion coluro fel y bydden nhw’n fwy cynhwysol. Mae’r lluniau newydd yn dweud llawer am beth – a phwy – sy’n absennol yn aml ym mhortreadau’r cyfryngau o harddwch a ffasiwn. Mae’r prosiect yn ymateb i’r cyfyng-gyngor ynghylch sut i fod yn gynhwysol wrth gydnabod allgáu cymdeithasol. Roedd Julia a Brenna mor garedig â gadael inni ddefnyddio lluniau o’r prosiect trwy ganiatâd y bobl oedd wedi’u portreadu, Cory a Kaguya.

Roedd popeth yn dod at ei gilydd bellach, er bod llawer i’w wneud o hyd. Gan efelychu pecyn cymorth AGENDA EJ Renolds, daethon ni o hyd i adnoddau a fyddai’n helpu defnyddwyr i ddysgu am faterion pwysig ac anelu at newid. Nododd Natasha Richards rai mudiadau nad oedden ni wedi’u cynnwys. Gan gadw mewn cof na fyddai rhai plant yn gwybod ystyr ‘misglwyf’, penderfynon ni esbonio’r eirfa, hefyd. Yn olaf, lluniodd Kate logo gwych sy’n cynrychioli ysbryd a diben y pecyn i’r dim – rhywbeth syml sy’n edrych ar y gorffennol gan ei droi’n brofiad newydd ar ffurf llun cryf iawn sy’n tynnu sylw at natur amryfal a harddwch bywydau beunyddiol.

***

Mae’n eithaf od bod y pecyn wedi’i gyhoeddi bellach. Roedd yn rhan o’m bywyd dros amser maith. Mae hanes ei lunio yn dangos bod ymgysylltu â’r cyhoedd yn fenter gydweithredol, hefyd. Daisy a Kate luniodd y pecyn gyda fy nghymorth i, ond mae llawer o bobl eraill wedi cyfrannu hefyd – wrth ateb ein cwestiynau, yn ogystal â gofyn rhai nad oedden ni wedi’u hystyried; wrth ein hysgogi pan nad oedden ni’n gwybod ble i ddechrau; ac wrth ein hannog pan nad oedden ni’n siŵr beth i’w wneud nesaf.

Rydyn ni o’r farn ei fod yn werth yr ymdrech. Mae’n bwysig gwybod beth ddigwyddodd yn y gorffennol fel y gallwn ni ddeall pam rydyn ni yn ein sefyllfa bresennol. Trwy wybod o ble y daethon ni, gallwn ni weld ble rydyn ni’n mynd. Trwy ddeall sut roedd iechyd a lles yn wahanol yn y gorffennol, yn arbennig yr hyn sydd wedi newid a pham, gall pobl ifanc feddwl yn wahanol am y dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw.


Dyma ragor am y pecyn: Bodies, Hearts, and Minds: using the past to empower the future.

Dyma Tracey a Kate yn trafod y prosiect a’u gwaith ehangach ym mhodlediad Louder Than Words