Y mater cudd sy’n fusnes i bawb – Grymuso’r rhai sydd gerllaw yn erbyn Cam-drin
Bryony Parry, Uned Atal Trais Cymru
Mae cam-drin domestig yn bryder mawr o ran iechyd y cyhoedd, hawliau dynol a chyfiawnder troseddol, ac mae’n costio tua £66 biliwn i’r Deyrnas Unedig bob blwyddyn.
Er ei bod yn broblem gronig, mae arweinwyr, sefydliadau a’r cyfryngau, yn y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd, wedi tynnu sylw at amlygrwydd ac effaith cam-drin domestig yn ddiweddar fel y ‘pandemig yn y cysgodion’ yn ystod COVID-19.
Heb os, gwaethygodd y cyfyngiadau cymdeithasol cysylltiedig â’r pandemig yr amodau lle mae cam-drin domestig yn digwydd, gyda Llinell Gymorth Byw Heb Ofn Cymru yn nodi cynnydd o 41% mewn cysylltiadau rhwng mis Ebrill 2020 a mis Chwefror 2021. Cynyddodd yr achosion o golli cyflogaeth, straen, a defnydd o alcohol a chyffuriau, tra bod mynediad at gymorth, yn ffurfiol ac yn anffurfiol, yn diflannu wrth i fesurau cwarantin ac ynysu cymdeithasol gael eu cyflwyno.
Mae ataliaeth yn hanfodol er mwyn dileu cam-drin domestig, ac mae ataliaeth yn dibynnu ar bawb yn bod yn rhan o’r ateb. Mae grymuso’r rhai sydd gerllaw i weithredu yn un o lawer o arfau pwerus i sicrhau bod cyflawnwyr yn cael eu cydnabod felly, ac yn bwysig, i sicrhau bod dioddefwyr/goroeswyr yn cael cymorth.
Yn eu gwaith ymchwil ‘Bystander Experiences of Domestic Violence and Abuse during the COVID-19 Pandemic1’, ceisiodd Uned Atal Trais Cymru ddeall sut roedd ymatebion pobl i dystio i gam-drin domestig neu fod â phryderon yn ei gylch a’i arwyddion rhybuddio wedi cael eu newid gan gyfyngiadau cymdeithasol. Mae cam-drin domestig yn aml yn drosedd a gyflawnir y tu ôl i ddrysau caeedig, ond roedd cyfyngiadau’r pandemig yn golygu, er bod dioddefwyr yn colli mynediad i rwydweithiau cymorth hanfodol, y gallai pobl eraill oedd yn agos at ddioddefwyr yn gorfforol neu ar-lein fod wedi cael cyfleoedd newydd i weithredu.
Canfu’r ymchwil fod amgylchiadau’r pandemig yn caniatáu i bobl gerllaw ddod yn ymwybodol o gam-drin domestig, gydag ymddygiadau rheoli trwy orfodi yn achosi’r pryder mwyaf ymhlith cyfranogwyr. Yn bwysig, canfu’r astudiaeth beilot hon fod teimlo’n gysylltiedig â’u cymuned yn rhagfynegydd sylweddol o’r bobl gerllaw yn cymryd camau rhag-gymdeithasol mewn ymateb i’r ymddygiad a oedd wedi achosi pryder iddynt.
Mae ymchwil pellach gan Uned Atal Trais Cymru wedi archwilio What Works to Prevent Violence against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence (VAWDASV)2. Canfu’r asesiad tystiolaeth systematig hwn dystiolaeth gref o effeithiolrwydd rhaglenni hyfforddi pobl sydd gerllaw er mwyn atal cam-drin domestig. Er enghraifft, mae’r Fenter ar gyfer y Rhai sydd Gerllaw, sydd wedi’i threialu ym mhrifysgolion Cymru gan Gymorth i Fenywod Cymru, wedi bod yn effeithiol o ran cynyddu gwybodaeth myfyrwyr am drais rhywiol a cham-drin domestig, gyda gwybodaeth yn newid eu hagweddau tuag at y materion hyn. Yn dilyn hyfforddiant, mae myfyrwyr hefyd yn fwy ymwybodol o strategaethau i ymyrryd ac roeddent yn fwy hyderus wrth wneud hynny3.
Gwelir atal cam-drin domestig fel elfen gynyddol hanfodol a dichonadwy i fynd i’r afael â’r mater cymdeithasol pwysig hwn. Mae ymgysylltu ac annog y rhai sydd gerllaw i weithredu pan fyddant yn dyst neu pan fydd ganddynt bryderon am gam-drin domestig nid yn unig yn ddull effeithiol o fynd i’r afael â cham-drin domestig, ond hefyd yn ddull effeithiol a hyblyg o atal cam-drin domestig.
Rhyddhawyd y blog hwn yn rhan o’n cynhadledd ynghylch trais domestig, “Gartref y mae’r gofid: deall ac ymateb i gam-drin domestig”.