6 Ionawr 2022
09:30 – 16:00

Cwrs undydd
Bydd yr hyfforddiant yn edrych ar faterion LHDT a phobl ifanc. Y broses o ddod allan, materion megis bwlio, hunaniaeth rhywedd a rhywioldeb i bobl ifanc. Sut mae cefnogi pobl ifanc, p’un a ydyn nhw’n hoyw, yn lesbiaidd, yn ddeurywiol, yn drawsrywiol neu’n cwestiynu. Bydd yn delio â materion megis diogelu, hunan-niweidio, camddefnyddio sylweddau a Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant. Fe’i cynhelir gan ddefnyddio dull gweithredu seiliedig ar hawliau.