Mae plant a phobl ifanc ag anableddau mewn perygl mwy o gael eu cam-drin, o’u cymharu â’u cyfoedion heb anableddau (Jones et al, 2012).
Mae ceisio barn ac arbenigedd rhieni a gofalwyr yn rhan hanfodol o ddeall beth sydd angen i ni ei wneud i gadw plant anabl yn ddiogel rhag cael eu cam-drin yn rhywiol.

Roeddem yn awyddus i gael gwybod barn rhieni a gofalwyr plant anabl am:
• y ffyrdd mwyaf effeithiol o gadw eu plant yn ddiogel rhag cael eu cam-drin yn rhywiol, a lle maen nhw’n credu bod angen rhagor o gefnogaeth
• sut maen nhw’n siarad â’u plant am gam-drin rhywiol
• at bwy maen nhw’n mynd am gyngor a chefnogaeth, a sut yr hoffen nhw i weithwyr proffesiynol a grwpiau cymunedol eraill i ymgysylltu â nhw ar atal cam-drin rhywiol ymysg plant.