Yn ystod y cyfnod amenedigol, o feichiogrwydd hyd at flwyddyn ar ôl rhoi genedigaeth, gall sawl problem iechyd meddwl effeithio ar fenywod. Mae’r rhain yn cynnwys: iselder, gorbryder, anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD), anhwylder straen wedi trawma (PTSD), anhwylderau bwyta a seicosis ôl-enedigol. Cyfeirir at y cyflyrau hyn fel cyflyrau iechyd neu salwch amenedigol.

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o’r canfyddiadau o brosiect Iechyd Meddwl Amenedigol yng Nghymru, partneriaeth rhwng NSPCC Cymru, Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH), Mind Cymru a’r Sefydliad Iechyd Meddwl, gyda chefnogaeth Ymgyrch Busnes Pawb y Gynghrair Iechyd Meddwl Mamolaeth. Mae’r prosiect yn edrych ar ofal iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru a’r profiad ohono ymhlith menywod a’u partneriaid sydd wedi’u heffeithio gan broblemau iechyd meddwl amenedigol.