Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

Be-Longing, cymorth ar gael i ofalwyr maeth a’r plant maen nhw’n gofalu amdanynt – digwyddiad gofal maeth ar-lein gyda’r gwestai arbennig, Robin Findlay

30 Mawrth 2023
7:00pm – 8:30 pm
Ar-lein
£5.00

Bydd y digwyddiad yn dechrau gyda dangosiad o’n ffilm fer Be-Longing sydd wedi ennill gwobrau. Mae’r ffilm bwerus hon yn adrodd hanes Khoji, bachgen 9 oed ‘sy’n derbyn gofal’ ac yn byw gyda theulu maeth yn Llundain. Rydym wedi gweld bod hyn yn ffordd wych o ddechrau’r sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cyfarwyddwr, a’r trafodaethau gyda’n gwesteion ynghylch gofal maeth, yr effeithiau y mae’n ei gael ar bobl ifanc mewn amgylchiadau anodd, a sut y gallwn roi’r cymorth gorau iddynt trwy gydol y broses hon. 

Bydd Robert Findlay, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Cenedlaethol y Gofalwyr Maeth Proffesiynol (NUPFC) yn trafod ei waith yn cefnogi gofalwyr maeth a’r plant y maen nhw’n gofalu amdanynt.

Am flynyddoedd lawer, bu Robin yn trefnu cynadleddau a digwyddiadau ledled y byd, mae ganddo gefndir ym maes cyfraith mewnfudo ac mae’n gyn ofalwr maeth. Gan ddefnyddio ei brofiad o fod yn ofalwr maeth ac o feysydd eraill, sefydlodd Undeb Cenedlaethol y Gofalwyr Maeth Proffesiynol i warchod gofalwyr a bod yn gymorth iddynt; nid oedd hyn ar gael yn unman arall.

Mae’r digwyddiad hwn yn arbennig o addas i (ond heb fod yn gyfyngedig i!) y bobl ganlynol:

  • Y rheini sydd â phrofiad o fod mewn gofal
  • Y rhai sy’n gweithio mewn asiantaethau gofal maeth, elusennau gofal maeth a chyrff anllywodraethol ym maes gofal maeth
  • Gweithwyr cymorth
  • Athrawon/penaethiaid/athrawon dynodedig
  • Gweithwyr cymdeithasol
  • Gofalwyr maeth
  • Ymgyrchwyr a’r rhai sydd â diddordeb mewn gwneud newid cadarnhaol yn y sector gofal

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.