Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
15 Mawrth 2023
2 – 5 pm
Ar-lein trwy Zoom
Digwyddiad rhad ac am ddim
22 Mawrth 2023
10am – 1pm
Ar-lein trwy Zoom
Digwyddiad rhad ac am ddim
Mae’r cwrs canolradd Dangos yn adeiladu ar y cwrs sylfaenol, neu’n briodol ar gyfer pobl â rhywfaint o brofiad megis gloywi. Mae wedi’i gynllunio o hyd ar gyfer gweithwyr rheng flaen, lle nad cyngor a chymorth ariannol yw’r brif swyddogaeth. Mae’r cwrs hwn yn rhoi pwyslais ar y cymorth sydd ar gael yng Nghymru, y tu hwnt i’r system budd-daliadau craidd, ac ar ddatblygu perthnasoedd gwaith gyda gweithwyr eraill.
Ariennir y rhaglen Dangos gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cynnig hyfforddiant i sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl agored i niwed er mwyn i weithwyr rheng flaen fod mewn sefyllfa well i’w helpu i gael mynediad at y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo.Mae cyrsiau mewnol hefyd ar gael i’r rhai sydd am godi ymwybyddiaeth timau o rhwng 10 ac 20 ar y tro, hefyd yn cynnig sesiynau sy’n canolbwyntio ar dai, gofal iechyd neu ofal cymdeithasol. Gellir trefnu’r rheini drwy ebostio info@dangos.wales ; neu am sesiynau yn Gymraeg drwy ebostio info@dangos.cymru.
Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.