Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

Dydd Gwener 24 Mawrth 20231pm – 3pm
Tir Hamdden y Rhath, 41, Ffordd Ninian, Caerdydd CF23 5EH
Wedi’i drefnu gan ACE (Gweithredu yng Nghaerau a Threlái)

Bydd y digwyddiad ‘ACE YourSpace’ hwn yn dod â phobl sydd â diddordeb mewn amgylcheddau lleol, ailddefnyddio ac ailgylchu, gweithgareddau celfyddydol, ac ymwybyddiaeth o ran iechyd meddwl, ynghyd. Maen nhw eisiau dod â phobl ynghyd i siarad ac i rannu syniadau’n ymwneud â gofalu am ein mannau gwyrdd, yn ogystal â gofalu am ein gilydd.
 
Beth fyddwn ni’n ei wneud ar Dir Hamdden Parc y Rhath?

Bydd ACE yn dod ag ACE Benthyg – Llyfrgell Pethau i’r digwyddiad, gan ddangos i chi sut gallwch arbed arian drwy fenthyg pethau, a bydd Celfyddydau ACE yno ag ystod o weithgareddau celfyddydol y gallwch eu gwneud.
 
Mae ACE wedi uno â Cadwch Gymru’n Daclus. Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn elusen sydd wedi bod yn cynnal ‘Caru Cymru’ – rhwydwaith o Hybiau Casglu Sbwriel ac yn cefnogi grwpiau cymunedol sy’n ymwneud â’r rhain, i weithio’n annibynnol, ers 2021. Byddan nhw’n helpu i gadw Parc Hamdden y Rhath yn daclus drwy wneud gwaith casglu sbwriel.

Bydd nifer o bartneriaid eraill, gan gynnwys FAN – elusen Friends And Neighbours, a hefyd Gwasanaeth Cwnsela, Eiroli a Bod yn Gyfaill, Y Gwasanaeth Gofal Cymunedol a Lles (CCAWS), yn bresennol; ac fe fyddant yn gallu trafod iechyd meddwl a lles a helpu i gysylltu aelodau’r gymuned gyda’i gilydd. 

Os oes gennych chi ychydig o amser sbâr ac mae gennych ddiddordeb yn amgylchedd y gymuned, ailgylchu, iechyd a lles, yna dewch draw i ymuno!

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.