ERTHYGL JOURNAL

Awduron: Rhiannon Evans, Rachel Brown, Gwyther Rees a Philip Smith

Blwyddyn: 2017

Crynodeb:

Mae plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal (LACYP) dan anfantais addysgol o gymharu â’r boblogaeth yn gyffredinol. Cynhaliwyd adolygiad systematig o hap-dreialon rheoledig yn gwerthuso ymyriadau wedi’u hanelu at LACYP ≤18 oed. Ni roddwyd cyfyngiadau ar osodiad nac asiant dosbarthu. Y canlyniadau ymyrraeth oedd: sgiliau academaidd; cyflawniad academaidd a chwblhau gradd; statws addysg arbennig; cwblhau gwaith cartref; presenoldeb ysgol, ataliad a gadael; nifer y lleoliadau ysgol; perthnasoedd athro-myfyriwr; ymddygiad ysgol; ac agweddau academaidd. Roedd pymtheg astudiaeth yn adrodd ar 12 ymyrraeth yn cwrdd â’r meini prawf cynhwysiant. Dangosodd naw ymyrraeth effeithiau petrus. Fodd bynnag, ni ellid canfod tystiolaeth o effeithiolrwydd oherwydd ansawdd methodolegol amrywiol, fel yr arfarnwyd gan offeryn risg rhagfarn Cochrane. Darperir argymhellion damcaniaethol a methodolegol i wella datblygiad a gwerthusiad ymyriadau addysgol.