Please note: This event is being hosted externally and not through Exchange Wales. Family & Community external events listings are posted to inform the wider community about external events including workshops, opportunities for families, children and young people, and helpful resources.

15 – 17 Gorffennaf 2024
10:00 – 15:15

Bydd Ysgol Haf 2024 ar Ymchwil ym maes Iechyd Meddwl Ieuenctid yn cael ei chynnal rhwng 15 a 17 Gorffennaf a bydd modd gwneud cais o 4 Mawrth.

Mae’r cwrs tri diwrnod hwn, a gynhelir ar-lein, yng ngofal tîm rhyngddisgyblaethol arbenigol Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, Prifysgol Caerdydd.

Nod y rhaglen yw rhoi sylfaen i ddarpar ymchwilwyr o gefndiroedd clinigol ac anghlinigol mewn ymchwil ym maes iechyd meddwl ieuenctid, gan ganolbwyntio’n bennaf ar y gwaith eang a wnawn yng Nghanolfan Wolfson.

Mae’r ysgol haf yn cael ei chyflwyno gan ymchwilwyr o’r radd flaenaf o’r ganolfan uchel ei pharch hon. Byddant yn arwain cyflwyniadau a sesiynau grŵp bach yn eu meysydd arbenigedd, gyda ffocws ar ddeall achosion problemau iechyd meddwl pobl ifanc, er mwyn gosod sail i ffyrdd newydd effeithiol o gynnig cymorth ymarferol.

Yn yr ysgol haf, bydd cyflwyniadau ar amrywiaeth o bynciau sy’n ymwneud â dulliau a chanfyddiadau ym maes ymchwil iechyd meddwl ieuenctid, gan ddefnyddio disgyblaethau epidemioleg, geneteg, niwrowyddoniaeth a datblygu ymyriadau, gan gynnwys y canlynol:

  • Heriau sydd ynghlwm ag iechyd meddwl ieuenctid a’r sefyllfa bresennol
  • Safbwyntiau byd-eang ar raglenni a pholisïau iechyd meddwl
  • Atal iselder ymhlith pobl ifanc
  • Iechyd meddwl mewn ysgolion a gwerthuso ymyriadau cymhleth
  • Ymchwil ar eneteg seiciatrig ym maes iechyd meddwl ieuenctid
  • Hunanladdiad a hunan-niweidio ymhlith pobl ifanc

Mae’r ysgol haf hefyd yn cynnwys sesiynau grwp bach ar bynciau sy’n cynnwys cyngor ar yrfa ymchwil, pwysigrwydd cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil, a sut gall ymchwilwyr helpu i sicrhau bod canfyddiadau’n cael eu trosi’n bolisi i’r llywodraeth.

Siaradwyr

Cyflwynir y rhaglen gan arbenigwyr yn eu priod feysydd.

  • Yr Athro Stephan Collishaw
  • Yr Athro Jeremy Hall
  • Yr Athro Ann John
  • Yr Athro Graham Moore
  • Yr Athro Frances Rice
  • Yr Athro Anita Thapar
  • Dr Rhys Bevan Jones
  • Dr Chris Eaton
  • Dr Olga Eyre
  • Dr Will Davies
  • Dr Joanna Martin
  • Dr Victoria Powell
  • Dr Yulia Shenderovich
  • Dr Foteini Tseliou
  • Dr Amy Shakeshaft
  • Dr Rebecca Anthony
  • Emma Meilak

Pwy all wneud cais?

Mae Ysgol Haf Wolfson ar gyfer darpar ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn symud ymlaen i faes ymchwil iechyd meddwl ieuenctid neu i ddysgu rhagor yn ei gylch. Os oes gennych chi radd israddedig (neu ar fin graddio), â diddordeb mewn gweithio ym maes ymchwil iechyd meddwl pobl ifanc, neu eisiau  cyflwyniad i’r maes hwn, byddwn yn croesawu eich cais.

Mae’r ysgol haf yn rhad ac am ddim.

Gwneud cais

I wneud cais am yr ysgol haf, llenwch y ffurflen hon, lle rydym yn gofyn rhywfaint o wybodaeth i chi am bwy ydych chi, a pham yr hoffech chi fod yn bresennol. Bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi ar ôl gadael i chi wybod canlyniad eich cais.

Bydd ceisiadau yn cau ar 14 Mehefin.

Nid yw ExChange Wales yn gyfrifol am ddolenni neu adnoddau allanol.