Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

Gweithio gydag ysgolion: cefnogi anghenion emosiynol plant dan ofal (yn flaenorol) mewn addysg

23 Mehefin 2023
10am – 1pm
Ar-lein – Zoom

Mae’r hyfforddiant hanner diwrnod hwn wedi’i anelu at weithwyr proffesiynol sy’n cefnogi plant a’u teuluoedd ac a hoffai archwilio gwahanol ffyrdd o gydweithio ag ysgolion i ddiwallu anghenion emosiynol y plentyn. Rydym yn gwybod y gall addysg fod yn brofiad heriol i lawer o blant sydd mewn gofal maeth neu berthynol, neu wedi’u mabwysiadu.

Byddwn yn trafod ffyrdd o rannu eich dealltwriaeth o sut mae tarfu a phrofiadau ymlyniad neu drawma cynnar yn effeithio ar ddysgu plentyn a’i ymdeimlad o ddiogelwch yn yr ysgol a sut i weithio tuag at gydweithrediad effeithiol rhwng cartref, ysgol a rhwydwaith cymorth proffesiynol y plentyn.

DEILLIANNAU DYSGU

  • Ystyried effaith bosibl tarfu ar ymlyniad a thrawma cynnar ar allu plant i ymgysylltu ag addysg
  • Myfyrio ar bwysigrwydd diogelwch a chysylltiad i blant a phobl ifanc er mwyn cyflawni eu potensial addysgol
  • Archwilio anghenion cymorth plant, pobl ifanc, rhieni/gofalwyr ac addysgwyr 
  • Archwilio gwahanol ddulliau a strategaethau i gydweithio ag ysgolion i ddiwallu anghenion emosiynol y plentyn

Cadw lle yn y digwyddiad hwn

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.