Ymunwch â ni ar gyfer y weminar hon yn RHAD AC AM DDIM, pan fyddwn yn archwilio cipolygon newydd i amgyffredion pobl ifanc mewn gofal am gymorth gan y bobl o’u cwmpas nhw – aelodau’r teulu, ffrindiau ac athrawon – a sut mae’r amgyffredion hyn yn cysylltu â’u hiechyd meddwl a’u lles nhw.

Ar sail ymatebion gan fwy na 2,600 o bobl ifanc i Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr mewn Ysgolion Uwchradd y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn 2023/2024, bydd y sesiwn yn archwilio patrymau sy’n dod i’r amlwg yn yr amgyffredion o gymorth, a beth allai’r patrymau hyn ei olygu i’r rhai sy’n gweithio gyda phobl ifanc mewn gofal ar draws addysg, polisi, ymarfer ac ymchwil yn y dyfodol.


Archebwch yma