Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
Ar 11 Tachwedd 2022
O 11.00am ymlaen
Amgueddfa Foundling
Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad hybrid – ar-lein ac wyneb-yn-wyneb – sy’n ymchwilio i bŵer adroddiadau uniongyrchol am brofiad o ofal.
Ymhlith y siaradwyr mae Kathleen Palmer, Ceidwad Amgueddfa Foundling; Justine Cowan, awdur ‘The Secret Life of Dorothy Soames’; a Dr Josie Pearse, a fydd yn sôn am ‘The Child She Bare’ gan Hannah Brown, a gyhoeddwyd ym 1919.
I ymuno â’r digwyddiad hwn ar-lein, mae’n rhaid i chi archebu tocyn ymlaen llaw.
Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.