28 Chwefror a 4 Mawrth 2022
09:30 – 16:00
Cwrs deudydd
Arddull gyfathrebu dywys gywrain sy’n deillio o faes cwnsela yw Cyfweld Cymhellol (MI). Y nod yw tywys cleientiaid wrth iddynt newid llawer o fathau o ymddygiad afiach, gan gynnwys defnyddio cyffuriau ac alcohol, ymddygiad iechyd fel smygu, bwyta, ymddygiad rhywiol, ymlyniad wrth feddyginiaeth ac ymddygiad troseddol. Mae strategaethau Cyfweld Cymhellol yn osgoi dulliau gwrthdrawiadol, gan mai’r nod yw sicrhau mai’r cleient sy’n cyflwyno’r dadleuon dros newid.