4 Mawrth 2022
09:30 – 12:30
Cwrs hanner dydd
Mae arferion gwaith wedi newid yn sylweddol ers dechrau pandemig. Bu symudiad aruthrol tuag at ddarparu gwasanaethau ar-lein ac mae elfennau o hynny’n debygol o barhau yn y tymor hir. Er bod sefydliadau wedi ymateb mor gyflym â phosib i’r newidiadau hyn, mae angen i ni sicrhau bod rhyngweithio yn y byd ar-lein yn digwydd mor ddiogel â phosib. Nod y sesiwn hyfforddi hon yw ymdrin â’r bwlch dealltwriaeth diogelu digidol. Mae’n hanfodol bod ymarferwyr a’r bobl ifanc rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn meddu ar yr offer a’r sgiliau i weithio’n effeithiol, yn hyderus ac yn ddiogel gyda phlant a phobl ifanc ar-lein. Bydd y sesiynau’n cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth i lleihau’r risgiau i blant a phobl ifanc wrth ymgysylltu â darparwyr gwasanaeth ar-lein.