Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
Digwyddiad ar-lein
Darllediad byw
Dydd Llun 23 Mai 2022
9.30 am – 3.30 pm
Prif Bwyntiau
- Cynnydd yn unol â Strategaeth Gweithlu Cymru Iachach
- Rhoi mesurau ar gyfer, lles y gweithlu, ac ymgysylltu â’r gweithlu, ar waith er mwyn gwella o ran cadw staff
- Gwaith cynllunio gweithluoedd i oresgyn prinder staff ac effaith barhaol Covid-19 a Brexit
- Arferion recriwtio arloesol i ddiwallu anghenion y sector yn y dyfodol
- Gwneud gyrfaoedd gofal iechyd a chymdeithasol yn fwy hygyrch a deniadol
- Meithrin diwylliant cynhwysol ac o berthyn, a chyrraedd targedau o ran amrywiaeth
Ymunwch â Chynhadledd Ddigidol Senedd Insight i adolygu cynnydd eich sefydliad yn unol â’r camau a amlinellir yn Strategaeth Gweithlu Cymru Iachach ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Cewch wybod sut y gall eich sefydliad integreiddio arferion recriwtio newydd a chreadigol. Byddwn yn trafod sut i ddenu gweithlu gofal iechyd a chymdeithasol y dyfodol, a mynd i’r afael â’r prinder parhaus o ran staff. Cewch ddewis o ddwy ffrwd sy’n edrych ar y materion sy’n ymwneud yn benodol â recriwtio a chadw yn y sectorau gofal iechyd a gofal cymdeithasol.
Cewch syniadau ar sut i greu modelau gweithlu aml-asiantaeth sy’n rhoi gofal iechyd a chymdeithasol integredig. Byddwn yn trafod sut i weddnewid y ffordd rydych yn datblygu, cefnogi a hyfforddi eich staff ledled eich sefydliad.
Sut mae creu gweithle cefnogol a chynhwysol lle mae pob gweithiwr yn teimlo ei fod yn cael ei gefnogi? Byddwn yn edrych ar ffyrdd ymarferol o wella cydraddoldeb yn y gweithle ac ymgysylltu â phoblogaethau newydd. Cewch wybod sut y gallwch feithrin sgiliau digidol yn y sector. Cewch wybodaeth ddefnyddiol ar sut i, weithredu ac integreiddio gwasanaethau lles effeithiol yn eich gweithle, a mynd i’r afael â phryderon ynghylch lles staff.
Dewch i’r digwyddiad hwn er mwyn cael arweiniad ymarferol sydd wedi’i seilio ar wybodaeth drylwyr, i sicrhau bod eich gweithlu gofal iechyd a chymdeithasol yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi, lle bynnag y maent yn gweithio.
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn ewch i Senedd Insight.
Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.