Ehangu darpariaeth blynyddoedd cynnar i gynnwys pob plentyn 2 oed, gyda phwyslais arbennig ar gryfhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
O fis Medi 2022, bydd y rhaglen Dechrau’n Deg yn cael ei hehangu i gyrraedd hyd at 2,500 yn rhagor o blant 0 i 4 oed drwy gynyddu ardaloedd targed Dechrau’n Deg ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru.
Bydd cam cyntaf yr ehangu yn cynnwys pedair elfen y rhaglen Dechrau’n Deg bresennol gan gynnwys gofal plant i’r rhai rhwng 2 a 3 oed. Bydd y timau Dechrau’n Deg yn cysylltu â’r teuluoedd cymwys sy’n lleol iddyn nhw erbyn haf 2022.
Bydd cynlluniau ar gyfer ehangu pellach o ran gofal plant drwy Dechrau’n Deg yn cael eu cyhoeddi yn hydref 2022.
Unwaith y bydd cynllun Dechrau’n Deg wedi’i gyflwyno’n llawn, bydd pob teulu yng Nghymru sydd â phlant rhwng 2 a 3 oed yn gymwys i gael 12.5 awr o ofal plant o ansawdd uchel am 39 wythnos y flwyddyn, a hynny wedi’i ariannu.
Mae £20 miliwn o gyllid ychwanegol wedi’i ddyrannu ar gyfer y 3 blynedd nesaf (2022-25) i gefnogi’r ehangu hwn.
Canllawiau ar ehangu darpariaeth blynyddoedd cynnar drwy Dechrau’n Deg:
Canllawiau Cam Un i Awdurdodau Lleol i ehangu darpariaeth y blynyddoedd cynnar, o fis Medi 2022:
Canllawiau Cam Dau i Awdurdodau Lleol i ehangu darpariaeth y blynyddoedd cynnar, o fis Hydref 2022:
Ehangu Cyllid y Blynyddoedd Cynnar Briff Cyfathrebu:
Dolenni gwe allanol:
Cwestiynau Cyffredin: Ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar yn raddol | LLYW.CYMRU
Datganiad Ysgrifenedig: Datganiad Ysgrifenedig: Ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar fesul cam (16 Mawrth 2022) | LLYW.CYMRU
Datganiad i’r Wasg: Ehangu’r rhaglen Dechrau’n Deg yng Nghymru | LLYW.CYMRU