Yn ein hastudiaeth ddiweddar o effeithiau COVID ar y rhai sy’n gadael gofal yn Iwerddon fe wnaethom gyfweld ag 16 o bobl ifanc (18-27 oed). Bûm yn trin a thrafod y problemau yr oeddent yn eu hwynebu, yr hyn a helpodd, a’r hyn a ddysgon nhw amdanynt eu hunain yn ystod COVID-19. 

Daeth y pandemig â heriau newydd i fywydau’r bobl ifanc y gwnaethom gyfweld â nhw. Roedd rhai’n teimlo’n fwy ynysig, yn cael trafferth gan fod arferion bob dydd yn cael eu tarfu, ac yn poeni am y dyfodol. Sylweddolodd llawer ei bod yn anodd dibynnu arnoch chi’ch hun, hyd yn oed pan fo cefnogaeth ac ewyllys da ar gael. Roedd rhai yn poeni am arian, llety, ac iechyd meddwl. Ond cyfeiriodd rhai at haul ar fryn yn ystod pandemig COVID-19.  

Dywedodd llawer eu bod wedi sylweddoli bod ganddynt eu hadnoddau eu hunain a’u rhwydweithiau a oedd wedi cynyddu eu hyder a’u helpu i ymdopi. Gallai rhywbeth mor syml â hobi neu ddiddordeb newydd wneud cryn wahaniaeth. 

Amlygodd yr astudiaeth pa mor hanfodol oedd cael perthnasoedd cefnogol. Gwnaeth nifer sôn am gefnogaeth gan ffrindiau a theulu, er bod y bobl ifanc hefyd yn gwerthfawrogi cefnogaeth gan wasanaethau iechyd meddwl ac ôl-ofal, ymhlith eraill. Cyfeiriwyd yn aml hefyd at y bygythiad o ansicrwydd yn eu bywydau – ansicrwydd ynghylch llety neu iechyd meddwl neu ddiffyg cefnogaeth pan oedd angen. Nid oedd yr angen am gymorth yn gysylltiedig ag oedran. Gall cymhwysedd ar gyfer ôl-ofal fod â chyfyngiad amser, ond nid oes cyfyngiad amser ar yr angen am gymorth. Fe wnaethom gyfarfod â phobl oedd bellach yn rhy hen i gael ôl-ofal ac oedd yn poeni am ymdopi heb gefnogaeth y gwasanaethau hyn.  Gwnaeth yr astudiaeth amlygu profiad y rhai sy’n gadael gofal o COVID ond hefyd rhoddodd gipolwg newydd i ni ar broblemau ehangach yn eu bywydau.

Cynhaliwyd yr ymchwil hwn mewn partneriaeth ag Empowering People in Care (EPIC).

Gweld a darllen yr adroddiad llawn: Lawrlwythwch yr adroddiad

Ynglŷn â’r awduron

Yr Athro Robbie Gilligan, Athro Gwaith Cymdeithasol a Pholisïau Cymdeithasol, Ysgol Gwaith Cymdeithasol a Pholisïau Cymdeithasol, Coleg y Drindod Dulyn.
rgillign@tcd.ie @RobbieGilligan

Dr Eavan Brady, Athro Cynorthwyol mewn Gwaith Cymdeithasol, Ysgol Gwaith Cymdeithasol a Pholisïau Cymdeithasol, Coleg y Drindod Dulyn.
bradye3@tcd.ie @eavanrb