Sylwer: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid drwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
24 Mehefin 2024
Amser: I’w gadarnhau
Llundain
Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd ein Cynhadledd Iechyd Flynyddol yn cael ei chynnal ddydd Llun 24 Mehefin 2024, wyneb yn wyneb ar Gampws Coram, (Canolfan Gynadledda QEII) yn Llundain.
Mae hwn yn ddigwyddiad pwysig i’r holl weithwyr iechyd proffesiynol sy’n gweithio gydag asiantaethau mabwysiadu a maethu. Bydd rhagor o fanylion ar gael maes o law am y diwrnod a’r rhaglen lawn.
Mae ein Cynhadledd Iechyd Flynyddol yn rhoi cyfle i weithwyr iechyd proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ddod ynghyd i drafod materion cyfredol a rhannu ymarfer.
Mynegwch eich diddordeb heddiw drwy ddefnyddio’r botwm isod.
Gobeithio y gallwch ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad arbennig hwn.
PWY DDYLAI FYND?
Cynghorwyr meddygol ar faterion mabwysiadu a maethu, a meddygon a nyrsys dynodedig, arbenigol ac a enwir ar gyfer plant o dan ofal neu a fabwysiadir, meddygon teulu, pediatregwyr, ymwelwyr iechyd, a gweithwyr iechyd proffesiynol perthynol.
LLEOLIAD
Campws Coram, (Canolfan Gynadledda QEII)
41 Brunswick Square
Llundain WC1N 1AZ
CYSYLLTU
Ebostiwch events@corambaaf.org.uk
Nid yw ExChange Wales yn gyfrifol am ddolenni neu adnoddau allanol.