Tra bod llawer o ddiddordeb mewn ymarfer ar sail tystiolaeth mewn gofal ac iechyd cymdeithasol, mae gwireddu hynny’n heriol am amryw resymau.
Bydd y digwyddiad ExChange arfaethedig yn amlinellu dull cyfranogol, gofalgar a democrataidd o ran defnyddio tystiolaeth mewn dysgu a datblygu sy’n cynnwys gweithwyr cymdeithasol, ymarferwyr gofal cymdeithasol, rheolwyr, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn cydweithio i ymchwilio a gwneud y byd yn lle gwell.
Mae gan y dull DEEP bum prif elfen:
- creu amgylcheddau ymchwil ac ymarfer cefnogol sy’n canolbwyntio ar berthnasau;
- rhoi gwerth i fathau amrywiol o dystiolaeth;
- defnyddio naratifau cyffrous i gasglu a rhannu gwybodaeth;
- defnyddio ymagweddau’n seiliedig ar ddeialog o ran dysgu a datblygu;
- a chydnabod a datrys rhwystrau systemig rhag datblygu.
Gan ddefnyddio gwybodaeth a dealltwriaeth bresennol o ddisgyblaethau amrywiol, nod dull DEEP yw mynd ar ôl pob agwedd gyda’i gilydd, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddefnyddio sawl ffurf ar stori, sy’n cynnwys y galon a’r meddwl.
Bydd y digwyddiad yn trafod agweddau theori ac ymarferol dull DEEP, gan ddefnyddio enghreifftiau o waith dysgu a datblygu cysylltiedig yng Nghymru. Bydd hefyd yn cyflwyno rhaglen 2020-23 DEEP gan gynnwys cyfleoedd hyfforddiant arfaethedig o ran defnyddio dull DEEP.
I ddarllen ym mhellach am y pwnc, mae ein siaradwr gwadd wedi ysgrifennu blog am y pwnc