Ym mis Mai cyhoeddwyd Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2020, sy’n dadansoddi cynnydd pob corff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, wrth weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ers iddi ddod i rym yn 2015. Mae’n edrych ar gynnydd pob corff cyhoeddus o ran a ydynt wedi cofleidio’r newid diwylliannol sy’n ofynnol o dan y Ddeddf ac yn ystyried y cynnydd a wnaed ar bob un o’r saith nod llesiant cenedlaethol.  Dywedodd mwy na 5,000 o bobl wrth Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a’i swyddfa pa fath o le maen nhw am fyw ynddo, a pha fath o le maen nhw am ei adael i genedlaethau’r dyfodol. 

Mae’r adroddiad yn rhannu gweledigaeth ar gyfer dyfodol Cymru ac yn cyflwyno argymhellion ar gyfer y llywodraeth a chyrff cyhoeddus, i helpu i gyflawni’r weledigaeth honno. Trwy’r fersiwn ryngweithiol ar-lein gallwch chi fynd am dro yn un o ddinasoedd Cymru yn y dyfodol a’r ardal o’i chwmpas, lle ceir hwb ar y cyd i’r gwasanaethau brys (wedi’i addurno gan artist lleol) a champfa a chanolfan hamdden sy’n gysylltiedig â’r ysbyty, yn ymyl ‘hwb’ cymunedol. Mae hybiau llesiant ar draws y ddinas, ei maestrefi a chefn gwlad. Ochr yn ochr â chaffis a siopau annibynnol, mae cynhyrchu a defnydd cynaliadwy yn cael eu hyrwyddo trwy siop gyfnewid a chaffi trwsio, drws nesaf i ganolfan ailgylchu.

Mae trenau’n sefyll mewn sawl man i wasanaethu llawer o’r gymuned, a does dim ceir yn y canol – yn hytrach, mae llu o reseli beiciau. Mae canolfan goedwig drws nesaf i hwb trafnidiaeth, ac mae e-geir gyda mannau gwefru. Mewn parc, mae cymdogion yn cymryd rhan mewn chwaraeon cadair olwyn ac yn gwneud yoga awyr agored, ac mae tîm rygbi benywod Cymru yn hyfforddi.

Mae baner Cymru a baner Balchder ar neuadd y dref, mae diwylliant i’w weld ymhobman, mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio ar gyfer bywyd pob dydd, ac mae ardal awyr agored i gynnal trafodaethau er mwyn annog cyfranogiad dinasyddion. Mewn mannau eraill, mae tyrbinau gwynt ac mae ‘pontydd gwyrdd’, i liniaru effeithiau ffyrdd ar gerddwyr a beicwyr, a darparu lle diogel i fywyd gwyllt groesi, yn norm.

Cymru yw hon lle mae caredigrwydd a llesiant yn y canol. Mae’n addas at anghenion y dyfodol. Rydyn ni wedi bod wrth ein bodd yn cael gweithio gyda Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, a sefydliadau eraill, i greu fersiwn person ifanc o Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n hygyrch ac yn gyffrous.

Datblygwyd y fersiwn hon o’r adroddiad gan grwp amrywiol o bobl ifanc, er mwyn ei drosi i’w llais a’u harddull greadigol eu hunain, a’i nod yw ennyn diddordeb pobl ifanc eraill, esbonio pam mae cynnwys yr adroddiad yn berthnasol iddyn nhw a’u dyfodol, a nodi sut gallan nhw ymwneud â mynnu bod Cymru’r Dyfodol yn cyflawni eu hanghenion.