Yn 2020, gwnaeth pandemig y coronafeirws (COVID-19) amharu’n sylweddol ar fywyd dyddiol ledled y DU. Rhoddodd Deddf Coronafeirws 2020 bwerau newydd i Lywodraethau datganoledig ar feysydd gan gynnwys iechyd, addysg a chyfiawnder (Sefydliad y Llywodraeth 2020). Cyhoeddodd y Prif Weinidog ar 23 Mawrth, 2020 bod ‘cyfnod clo’ i ddilyn a chafwyd cyfarwyddebau tebyg yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (Sefydliad Llywodraeth 2020).
Mae trafodaethau ar yr ymatebion angenrheidiol i’r pandemig, ynghyd â thrafodaethau am ei effaith, wedi tynnu sylw at bryderon am anghydraddoldebau. Er enghraifft, nododd Golightly a Holloway (2020: 637) fod ‘rhai [unigolion] mewn sefyllfa lawer gwell nag eraill i fynd trwy hyn’ tra bod Blundell et al (2020: 292) yn dadlau na fydd y pandemig ‘yn effeithio ar bawb yn yr un modd… o iechyd i swyddi ac i fywyd teuluol… y grwpiau mwyaf agored i niwed yn ôl cefndir economaidd-gymdeithasol a statws iechyd hefyd yw’r rhai a allai gael eu taro arwaf.”
Mae COVID-19 hefyd wedi effeithio ar ddarparu gwasanaethau cymdeithasol i oedolion a phlant (Ferguson et al 2020), gan gynnwys cynnal cefnogaeth i grwpiau sy’n agored i niwed ac ymateb i alw cynyddol am iechyd meddwl, trais domestig a gwasanaethau diogelu (Baginsky a Manthorpe 2020 ).
Mae ymchwil newydd yn ceisio deall ymatebion i COVID-19 ac anghenion a phrofiadau unigolion sy’n derbyn ac yn darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol (Baginsky a Manthorpe 2020; Bhatia 2020; Blake-Holmes 2020; Cook a Zschomler 2020; Dafuleya 2020; Ferguson et al 2020 ; Henrickson 2020; Iyer et al. 2020; Lingam a Sapkal 2020; O’Sullivan et al 2020; Rambaree a Nassen 2020; Sanfelici 2020; Sengupta a Jha 2020; The Fostering Network 2020; Walter-McCabe 2020). Canolbwyntiodd y prosiect ymchwil hwn yn bennaf ar gyd-destun Cymru a’i nod yw cyfrannu at y dystiolaeth hwn sy’n dod i’r amlwg, gyda ffocws ar anghenion, cefnogaeth a phrofiadau pobl ifanc sy’n gadael gofal awdurdod lleol.