Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu (SLC) yn y blynyddoedd cynnar: darpariaeth gyffredinol wedi’i thargedu ar gyfer Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf

Mae’r cyflwyniad hwn yn rhoi trosolwg o’r gwaith sy’n cael ei gynnal ledled Cymru, o fewn Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf, yn ogystal ag yn ehangach, i fynd i’r afael ag anghenion plant sy’n oedi o ran sgiliau iaith cynnar neu mewn perygl o hynny. Mae tua 50% o blant yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn dechrau ysgol ag anghenion SLC a all wedyn effeithio’n eang, nid yn unig ar eu canlyniadau addysgol ond hefyd ar eu hymddygiad, eu hiechyd meddwl, a’u rhagolygon gyrfa.

Mae’r cyflwyniad hwn yn ystyried yr hyn y gallwn ei wneud i fynd i’r afael â rhai o’r materion hyn yn gynnar, sut mae Therapyddion Iaith a Lleferydd yn cydweithredu fel proffesiwn, a gyda theuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill, a sut rydym yn mesur effaith y gwaith hwn. Rydym yn awyddus iawn i gysylltu ag asiantaethau eraill i drafod a lledaenu ein gwaith, ac rydym yn croesawu cwestiynau.