Mae Gwneud Eich Marc yn gyfle i bobl ifanc 11-18 oed ledled y DU fynegi eu barn a chychwyn ar eu taith ddemocrataidd trwy bleidleisio ar y polisïau y maent am eu cyflwyno neu eu newid.

Bydd y materion rydych yn pleidleisio amdanynt fel y rhai pwysicaf yn cael eu trafod gan Aelodau Ieuenctid y Senedd. Byddant yn ymgyrchu i ddylanwadu ar Senedd y DU a’u cynrychiolwyr lleol, gan sicrhau y bydd y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn gwrando ar farn pobl ifanc.

Dyma’ch cyfle i ddylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau a all wneud gwahaniaeth go iawn ynghylch y materion sydd o bwys i chi. Gwneud Eich Marc yw un o’r ffyrdd mwyaf pwysig a dylanwadol y gall pobl ifanc gymryd rhan mewn proses ddemocrataidd.

Mae gennych hyd at y 30ain o Dachwedd i fwrw eich pleidlais!

Pynciau’n Cynnwys:

  • Cefnogi ein Iechyd Meddwl
  • Prifysgolion am Ddim
  • Mynd i’r Afael a Thlodi Plant
  • Dod a Llygredd Plastig i Ben
  • Cynyddu Ymwybyddiaeth Hiliol yn y Cwricwlwm
  • Gweithredu Ynghylch yr Argfwng Hinsawdd
  • Pleidleisiau yn 16
  • Mynd i’r Afael a Gwahaniaethu a Trosedd Gasineb yn y DU
  • Cynnwys Pobl Ifanc yn y Cynllun ar Gyfer Adfer Wedi Covid-19
  • Diogelu Hawliau Dynol

https://www.ukparliamentweek.org/cy/gwneud-eich-marc