Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

Understanding and responding to trauma

5 Gorffennaf 2022
9.30 am – 12.30 pm

Cwrs undydd

Bydd y cwrs ar-lein hwn, a gyflwynir mewn amser go iawn i nifer cyfyngedig o gyfranogwyr, yn cynnig hanfodion ymateb gwybodus i drawma yng nghyd-destun y sefyllfa gyfredol. Gall digwyddiadau sy’n achosi straen a braw greu bygythiadau i’n hymdeimlad o ddiogelwch, a chreu teimladau o dristwch dwys, a’n bod yn colli pŵer a rheolaeth yn ein bywydau.

Gan fod y DU i mewn ac allan o gloi, heb unrhyw gysondeb rhwng cenhedloedd, bydd ymarferwyr o bob cyd-destun yn ailgysylltu â’r plant a’r bobl ifanc maen nhw’n gweithio gyda nhw. Ar yr adeg hon, rhaid rhoi blaenoriaeth i geisio helpu plant i wneud synnwyr o’r hyn sydd wedi digwydd yn eu bywydau yn ystod y misoedd diwethaf, ac i weithwyr proffesiynol fedru cynllunio ar gyfer llacio’r cyfyngiadau.

Mae’n bosib bydd plant wedi wynebu digwyddiadau trawmatig sy’n uniongyrchol gysylltiedig â feirws COVID-19, neu yn sgîl sefyllfaoedd yn eu cartrefi a’u cymuned yn ystod y cyfnod hwn o gyfyngu ar symud. Mae plant a phobl ifanc mewn sefyllfa arbennig o fregus os nad ydynt yn ymwneud llawer â phobl y tu allan i’w haelwyd, nac yn agored i ymyriad trwy’r gymuned neu wasanaethau cefnogi ffurfiol. Mae’n bwysig gwrando ar blant, sylwi ar sut maen nhw’n rhyngweithio, a sylweddoli bod sut maen nhw’n ymddwyn yn ffordd o gyfathrebu. Bydd dealltwriaeth o drawma, beth mae’n ei olygu, a sut mae’n effeithio ar lesiant emosiynol a chorfforol yn helpu ymarferwyr i fedru adnabod a chefnogi plant ar yr adeg hanfodol hon, ac wrth i ni symud allan o’r ynysu.

Nodau:

  • Ddeall beth yw sefyllfa niweidiol a thrawma yn ystod plentyndod
  • Gwybod sut mae trawma yn effeithio ar fywydau plant, gan gynnwys eu datblygiad tymor byr a thymor hir
  • Gallu adnabod arwyddion posibl o drawma
  • Deall prif elfennau ymarfer sydd â gwybodaeth am drawma
  • Cael cyfle i archwilio trawma yng nghyd-destun COVID-19

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.