Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

Digwyddiad ar-lein

Dydd Iau, 31 Mawrth, 2022
2:00 PM – 3:30 PM BST

Pwnc y cyflwyniad hwn fydd yr hyn a ddysgwyd wrth ymchwilio i waith Canolfannau, Hybiau a Sefydliadau sy’n cynnal ac yn cefnogi cyd-gynhyrchu a mathau cyfranogol o ymchwil yn rhyngwladol ar hyn o bryd. 

Siaradwyr: Emma Davidson (Polisi Cymdeithasol) a Laura H.V. Wright (Astudiaethau Plentyndod a Ieuenctid)

Nod Emma a Laura oedd dod i ddeall sut mae’r Canolfannau, yr Hybiau a’r Sefydliadau hyn wedi datblygu: pa heriau y bu iddynt eu hwynebu o fewn eu sefydliadau? Sut maent wedi llywio gofynion sefydliadol? Sut maent wedi parhau’n gynaliadwy tra’n cadw’r gwerthoedd sy’n greiddiol i ymchwil gyfranogol? A pha syniadau sydd ganddynt ar gyfer ymchwil, cydweithredu, strwythur a ffordd o weithio, sy’n ystyrlon?

Bydd y cyflwyniad hwn yn ystyried cymhlethdodau byd-eang sefydlu canolfannau ymchwil, eu rôl o ran ysbrydoli arferion ymchwil cyfranogol ar draws y byd academaidd ac wrth ymarfer, fel ei gilydd, ac yn dathlu’r gwerth perthynol a all ddeillio o gydweithio ar draws cyd-destunau.

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.