‘Blocio gwelyau, bregus, heibio’ch dyddiad gwerthu, baich poblogaeth sy’n heneiddio’. Mae’r iaith a ddefnyddir i ddisgrifio pob un ohonom wrth i ni fynd yn hŷn yn negyddol i raddau helaeth, gan bortreadu heneiddio fel cyfnod o ddirywiad anochel a’r boblogaeth sy’n heneiddio fel baich a her. Oedraniaeth yw hyn – stereoteipio pobl ar sail eu hoedran,
Mae’r negeseuon hyn, yr ydym yn eu gweld ac yn eu clywed yn gyson yn y cyfryngau yn ogystal ag mewn sgyrsiau o ddydd i ddydd, yn niweidiol i ni fel unigolion ac i’r gymdeithas gyfan. Gallant ddylanwadu ar sut y caiff polisi ei ddatblygu, adnoddau eu dyrannu, a chymorth ei ddarparu.
Gwaetha’r modd, mae oedraniaeth yn amlwg iawn – canfu adroddiad byd-eang diweddar ar oedraniaeth gan Sefydliad Iechyd y Byd fod un o bob dau o bobl ledled y byd yn ymagweddu’n negyddol at bobl hŷn oherwydd eu hoed.1
Felly beth mae hyn yn ei olygu o safbwynt dull gweithredu sy’n seiliedig ar gryfderau?
Mae angen inni ddeall dylanwad oedraniaeth a sut gellir ei fewnoli, gan gyfyngu ar ein teimlad o’n gwerth ein hunain, beth gallwn ni ei gyfrannu, a pha mor bwysig ydym ni wrth heneiddio. Os clywn ni’n eitha cyson ein bod yn faich ac yn bennaf gyfrifol am y pwysau ym maes gofal cymdeithasol a’r GIG mae’n anodd credu bod gennym allu i weithredu na gwerth. Gall dull gweithredu sy’n seiliedig ar gryfderau helpu i oresgyn hyn cyn belled â’i fod yn cydnabod bodolaeth oedraniaeth a’i dylanwad.
Wrth i ni fynd yn hŷn, rydym am barhau i fod â phwrpas a chael ein gwerthfawrogi am bwy ydym ni. Fel y dywedodd un person hŷn wrthyf ‘rydym yn fwy na dim ond casgliad o symptomau’.
Rhaid inni ddechrau o safbwynt yr hyn y gallwn ei wneud, yn hytrach na’r hyn na allwn ei wneud, ac mae’n hanfodol nad yw rhagdybiaethau’n cael eu gwneud am yr hyn sy’n bosibl na’r hyn y mae gennym ddiddordeb ynddo ar sail ein hoedran. Mae dod i adnabod pwy ydym ni mor bwysig hefyd – ‘peidiwch â barnu fy stori ar sail y bennod roeddwn i arno pan gerddoch chi i mewn’ – ac mae hyn yn cynnwys dealltwriaeth o’n rhwydweithiau, ein teulu a’n ffrindiau (os ydym yn ffodus i gael y rhain) a’r man lle rydym yn byw.
Ac mae lle yn bwysig. Gall fod yn amgylchedd sy’n galluogi, hwylus i symud o gwmpas ynddo, diogel a chyfeillgar. Neu gall fod yn rhwystr, yn ein hynysu, ein gwahanu oddi wrth gwmni, gweithgaredd a phwrpas. Mae arnom ni angen cymunedau sy’n gyfeillgar i bobl hŷn – lle rydym ni’n teimlo ein bod yn cael ein gwerthfawrogi, eu cynnwys a’u parchu wrth i ni heneiddio. Lle gallwn fynd allan, gwneud y pethau sy’n bwysig i ni, dal i gasglu gwybodaeth a bod yn rhan o bethau.
Dau o’m blaenoriaethau innau fel Comisiynydd Pobl Hŷn yw dileu oedraniaeth ac annog datblygu cymunedau sy’n gyfeillgar i bobl hŷn er mwyn ein galluogi i heneiddio’n dda. Byddwn hefyd yn dadlau eu bod yn rhannau hanfodol o ddatblygu dull gweithredu seiliedig ar gryfderau, gan ddarparu’r sylfeini cywir ar gyfer y gwaith hanfodol mae pawb ym maes gofal cymdeithasol yn ei gyflawni.