Dros yr 20 mlynedd ddiwethaf gwelwyd cynnydd enfawr yng nghyfraddau’r plant sydd mewn gofal yng Nghymru. Bu cynnydd o 89% ers 2003, sy’n golygu bod gan Gymru un o’r cyfraddau uchaf o blant mewn gofal yn y byd erbyn hyn.
Ychydig iawn a wyddom ni pam fod y cyfraddau wedi cynyddu fel hyn. Maen nhw wedi bod ar gynnydd ers yn agos i 30 mlynedd, drwy gyfnodau da a chyni. Mae’r mwyafrif llethol o’r teuluoedd y mae’r plant yn dod ohonynt yn byw mewn tlodi, gydag anawsterau fel problemau tai, cyffuriau neu alcohol a cham-drin domestig yn gyffredin. Ond eto ni welwyd cynnydd mawr a chyson mewn problemau o’r fath dros y 30 mlynedd ddiwethaf, felly nid yw’r ystyriaethau hyn yn egluro’r cynnydd. Mae’n fwy tebygol mai’r hyn sydd wedi newid yw’r ffordd rydym ni’n ymateb i’r problemau y mae’r mathau hyn o straen yn eu hachosi.
Yr hyn rydym wedi’i weld yn gyson dros y 30 mlynedd ddiwethaf, ac yn enwedig ers troad y ganrif, yw cynnydd yn y lefelau o bryder am y risgiau i blant. Caiff hyn ei yrru gan y proffil uchel a gaiff achosion o blant yn marw a’r ymateb iddynt yn y cyfryngau a gan wleidyddion. Mae’r system amddiffyn plant wedi ymateb i’r pwysau ehangach hyn. Bu gwaith Elliot yng Nghymru’n mapio’r ffordd roedd cynnydd mewn gofal yn gysylltiedig â’r cyhoeddusrwydd a gafodd marwolaeth Peter Connolly. Canfu hefyd fod y cynnydd i gyd i’w weld mewn teuluoedd tlotach.
Er bod y cynnydd cyffredinol yn rhyfeddol, mae’r amrywiaeth rhwng awdurdodau lleol (ALl) yn eithriadol. Er enghraifft, rhwng 2003 a 2021 yn Sir Fynwy cafwyd cynnydd o 356%, a 258% yn Nhorfaen, ond doedd dim newid o gwbl yn Sir Gaerfyrddin a chynnydd 24% yn unig yng Nghastell Nedd Port Talbot. Mae hyn yn codi cwestiynau pwysig, sy’n anodd eu hateb.
Fel cyfraniad cynhaliom ni arolwg cenedlaethol o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i blant yng Nghymru — diolch i’r 792 o weithwyr ac arweinwyr a gwblhaodd ein holiadur. Mae’r adroddiad llawn ar gael yma. Mae’n werth tynnu sylw at dri chanfyddiad.
Yn gyntaf, roedd cred eang bod gormod o blant mewn gofal yng Nghymru. Nid yw hwn yn sector sy’n gyfforddus â chyfraddau’r plant mewn gofal – nid yw gweithwyr ac arweinwyr yn credu bod y sector yn gwneud pethau’n iawn ar hyn o bryd.
Yn ail, yn yr awdurdodau â chyfraddau gofal isel ac yn gostwng, roedd gweithwyr yn fwy hyderus fod eu ALl wedi sicrhau’r cydbwysedd rhwng cadw plant gyda’u teuluoedd a sylweddoli bod angen i rai gael eu hamddiffyn. Nid yw hyn yn brawf fod yr ALlau hyn yn gwneud y peth iawn – mae’n anodd iawn bod yn sicr am hynny. Ond mae’n awgrymu y gallwch gadw cyfraddau gofal yn gymharol isel heb i weithwyr deimlo bod plant yn cael eu peryglu.
Yn drydydd, yn yr ALlau â chyfraddau gofal oedd yn gostwng, nododd gweithwyr gefnogaeth well i’w hymarfer, roeddent yn fwy tebygol o fod â fframwaith
ymarfer ac roedd ganddynt werthoedd oedd yn fwy cadarnhaol ynghylch cadw teuluoedd a phlant gyda’i gilydd.
Wrth gwrs, mae hyn yn codi cwestiwn pwysig: sut oedd yr awdurdodau hynny’n cyflawni hyn? Yn ddiweddar roeddwn i’n ffodus i gael cyfweld ag arweinwyr yn Sir Gaerfyrddin a Chastell-nedd Port Talbot Dyma i mi oedd rhai o’r sgyrsiau mwyaf diddorol a chraff rwyf i wedi’u cael am y ffordd y mae rhai awdurdodau fel pe baent yn gallu cadw mwy o blant gartref. Os oes gennych ddiddordeb mewn clywed mwy, gallwch wrando arnynt yma.
Yr hyn oedd i’w weld yn glir o’r podlediadau, ac a gefnogwyd gan yr arolwg, yw bod gan yr ALlau â chyfraddau gofal sy’n gostwng werthoedd cryfach o ran gweithio gyda theuluoedd i geisio cadw plant allan o ofal a bod y rhain yn treiddio drwy’r sefydliad cyfan. Mae’r arweinwyr yn sôn am yr amrywiol ffyrdd o gyflawni hyn, ac am y ffordd maen nhw wedi creu cylchoedd rhinweddol lle gellir buddsoddi arian a arbedir drwy leihau cyfraddau gofal mewn gwasanaethau i helpu teuluoedd i aros gyda’i gilydd.
Mae pob ALl yn wynebu heriau enfawr ar hyn o bryd, ac eto mae’n ymddangos fod rhai sydd â phroblemau cymdeithasol sylweddol yn gallu osgoi cael y niferoedd mawr o blant mewn gofal a welir mewn awdurdodau tebyg eraill. Yr her sy’n ein hwynebu yng Nghymru ac ar draws y DU yw sut y gallwn ddysgu o enghreifftiau o’r fath.