Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

30 Mehefin 2023
09:30 – 16:00

Bwriad y cwrs yw codi ymwybyddiaeth a chynyddu dealltwriaeth o awtistiaeth er mwyn parhau i wella ansawdd y gefnogaeth i blant ar y sbectrwm a’u teuluoedd/gofalwyr.

Fe fydd y cwrs yma yn cael ei hwyluso gan hyfforddwr sydd yn brofiadol a gwybodus ym maes awtistiaeth trwy ei bywyd proffesiynol a phersonol. Mae ei phrofiad personol a’i mewnwelediad empathig yn creu dimensiwn unigryw a real i’r hyfforddiant a gynigir. Mae’r cwrs yn annog cyfranogiad cynhwysol er mwyn sicrhau bod y diwrnod yn bleserus ynghyd a bod yn addysgiadol.

Nod y cwrs:

  • Cynnydd yn nealltwriaeth o sbectrwm anhwylderau /cyflwr awtistiaeth.
  • Adnabod elfennau allweddol awtistiaeth a’r ffordd mae’n medru effeithio ar blant.
  • Cynnydd yn nealltwriaeth o bwysigrwydd cyfathrebu a  pharatoi i leihau gofid.
  • Archwilio strategaethau cadarnhaol i gefnogi a galluogi plant gydag awtistiaeth i gyrraedd eu llawn botensial.
  • Cynnydd yn nealltwriaeth o bryder posib rhieni ac ymarferwyr ac archwilio strategaethau rhagweithiol.

Ar gyfer pwy mae wedi’i fwriadu:

Mae’r cwrs yn ddelfrydol ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant mewn amrywiaeth eang o leoliadau ynghyd a rhieni/gofalwyr sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth a chynyddu dealltwriaeth o awtistiaeth.

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.