Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
16 & 17 Chwefror 2023
09:30 – 16:00
Cwrs deudydd
Mae ein gallu i weithio gydag eraill yn dibynnu’n rhannol ar ansawdd y gefnogaeth a’r oruchwyliaeth rydym yn eu derbyn. Bydd y cyfranogwyr yn gallu cyfuno nodi anghenion hyfforddiant a goruchwyliaeth, cefnogaeth ac arnfarnu, mewn pecyn systematig a chydlynus a fydd o fudd i’r unigolyn a’r sefydliad.
Erbyn diwedd y cwrs bydd y cyfranogwyr wedi:
- Archwilio ystyr a phwrpas datblygu staff, a’r cysylltiad rhyngddo a boddhad yn y swydd a symbyliad
- Nodi ystod o gyfleoedd ar gyfer datblygu staff, o sefydlu, gorchwyliaeth a mentora i hyfforddiant
- Nodi ac ymarfer y sgiliau sydd ynghlwm wrth ddarparu goruchwyliaeth effeithiol
- Ystyried rhai o’r rhwystrau – personol a threfniadol – i oruchwyliaeth effeithiol a ffyrdd o’u goresgyn
- Archwilio sut mae goruchwyliaeth yn paratoi ar gyfer arfarnu ac yn cysylltu ag ef
- Dechrau datblygu strategaeth ar gyfer gweithredu a/neu wella goruchwyliaeth a datblygu staff yn eu sefydliad
Pwy ddylai fod yn bresennol?
Lluniwyd y cwrs hwn ar gyfer unigolion sy’n gyfrifol am oruchwylio aelodau eraill o staff.
Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.