Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
Dydd Mawrth, 31 Ionawr, 2023
10.00yb – 1.00yp
SPARC, Prifysgol Caerdydd
I ddewis presenoldeb yn y cnawd neu’n hybrid (Caiff cinio canol dydd ei gynnwys i’r rheiny sy’n mynychu yn bersonol)
Mae Maethu Lles yn rhaglen beilot a ariannir gan Lywodraeth Cymru sy’n canolbwyntio ar ymagwedd amlddisgyblaethol tuag at wella deilliannau i blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal. Gan fod yn seiliedig ar egwyddorion addysgeg gymdeithasol, daeth Maethu Lles â gweithwyr proffesiynol ynghyd o feysydd gofal cymdeithasol, addysg, ac iechyd ledled Cymru ar gyfer rhaglen ddysgu a datblygu ar y cyd.
Gwerthusodd Prifysgol Caerdydd y cynllun peilot yn annibynnol. Mae’u hadroddiad yn darparu dirnadaeth gyfoethog o brofiad pobl o ddysgu ar-lein, yn ogystal ag yn ystyried effaith a photensial y rhaglen ei hun.
Mae’r digwyddiad hwn yn darparu’r cyfle i glywed mwy am Maethu Lles ac i glywed gan dîm y Brifysgol wrth iddynt gyflwyno’r canfyddiadau o’r gwerthusiad am y tro cyntaf. Yn ymuno â ni hefyd y bydd gofalwyr maeth profiadol Arloeswyr Maethu Lles sydd wedi’u hymrwymo i rannu egwyddorion y rhaglen drwy’u gwaith i gyd. Byddant yn trafod y rôl o Arloeswr a gwaith parhaus sy’n digwydd mewn awdurdodau ledled Cymru.
Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.