Jon Symonds
Mae adroddiad newydd wedi’i lansio, sy’n darparu tystiolaeth gan rieni a’u plant am eu profiadau pan wahanodd eu rhieni.
Er bod rhai rhieni’n defnyddio’r llysoedd teulu, mae llawer yn rheoli’r broses o wahanu heb ddefnyddio’r llysoedd o gwbl, ac yn yr adroddiad hwn, rydym yn archwilio’r mathau o gefnogaeth a ddefnyddiodd teuluoedd heb yr angen i wneud ceisiadau i’r llysoedd teulu.
Mae’r dystiolaeth yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar ddata ansoddol manwl gan 42 o famau, tadau a phlant. Cynhaliwyd yr astudiaeth ledled Cymru a de-orllewin Lloegr. Defnyddiodd y cyfranogwyr fyfyrdodau fideo, ysgogi gweithgareddau crefft a chyfweliadau ar-lein i egluro’r penderfyniadau a wnaethant yn ystod y gwahanu, yr heriau a wynebwyd a’r gefnogaeth a gawsant.
Yn seiliedig ar ddadansoddiad thematig o’r data hwn, rydym yn cynnig mewnwelediadau i’r hyn yr oedd rhieni a phlant yn ei ystyried yn werthfawr wrth reoli ac addasu i’r gwahanu, yn ogystal â’u rhesymau dros ddefnyddio, neu benderfynu peidio â defnyddio’r llysoedd teulu.
O ran barn plant a phobl ifanc, dywedon nhw wrthym eu bod am i’w lleisiau gael eu clywed yn y broses. Rhai o ganfyddiadau allweddol gan blant, pobl ifanc a rhieni oedd –
- Roedd gwahanu rhieni yn effeithio ar blant yn emosiynol ac yn ymarferol yn eu bywydau bob dydd. Roedd yn gyfnod cynhyrfus, a daeth llawer i wybod am wahaniad eu rhieni mewn ffyrdd nad oedd yn helpu eu dealltwriaeth, gan gyfrannu ymhellach at eu trallod.
- Dywedodd plant a phobl ifanc wrthym nad oedd ganddynt lawer o wybodaeth na chyfranogiad mewn penderfyniadau a oedd yn effeithio arnynt. Roedd rhai plant hŷn yn teimlo nad oeddent wedi cael gwrandawiad mewn perthynas â phenderfyniadau’r llys ynghylch gyda phwy y byddent yn treulio amser, a oedd yn eu gadael yn teimlo’n ofidus.
- Nod rhieni oedd blaenoriaethu ac amddiffyn plant drwy’r broses wahanu. Fe wnaethant roi enghreifftiau o sut roeddent wedi ceisio atal emosiynau negyddol tuag at eu cyn-bartner er mwyn eu plant, ac i ddatrys anghytundebau fel y gellid cynnal perthnasoedd. Fodd bynnag, roedd rhai yn myfyrio ar ba mor anodd oedd hyn tra mewn trallod emosiynol, ac roedd gwahaniaethau rhwng dealltwriaeth rhai rhieni o’r effaith ar blant a’r hyn yr oedd plant yn ei ddweud wrthym ni eu hunain.