Gall y Nadolig fod yn gyfnod arbennig o anodd, yn llawn emosiynau sy’n gwrthdaro, i bobl ifanc sydd wedi tyfu i fyny mewn gofal.  Mae ein gwaith ar draws CASCADE wedi amlygu dros flynyddoedd lawer rai o’r rhwystrau y gall pobl â phrofiad o ofal eu hwynebu wrth adael gofal. Maent ddwywaith mor debygol o ddweud eu bod yn teimlo’n unig y rhan fwyaf neu’r cyfan o’r amser na phobl ifanc eraill yn y boblogaeth gyffredinol. Bydd llawer ohonoch sy’n gweithio gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn gweld hyn yn feunyddiol.  

Ar draws y Deyrnas Unedig, cynhelir rhaglenni lle mae gwirfoddolwyr, a elwir yn ‘westeiwyr’, yn dod at ei gilydd i ddarparu cinio Nadolig a dathliad i bobl sydd â phrofiad o ofal. Ond, hyd yn hyn, nid yw hyn erioed wedi digwydd yng Nghymru. Eleni, bydd hynny’n newid. 

Mae grŵp o westeiwyr sydd â gwybodaeth am anghenion pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau y bydd llai o oedolion ifanc yn ardal Caerdydd ar eu pennau eu hunain ar Ddydd Nadolig. Daw’r gwesteiwyr o ganolfannau ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, ac amrywiaeth o elusennau gan gynnwys Plant yng Nghymru, Lleisiau o Ofal ac NYAS Cymru. Mae gan rai o’r gwesteiwyr brofiad o ofal maeth neu ofal preswyl ac maent yn deall pa mor anodd y gall tymor yr ŵyl fod.  

Fel y dywedodd J. o dde Cymru, sy’n 20 oed: 

“Roeddwn bob amser yn mynd at mamgu dros y Nadolig, ond ers iddi hi farw, dydw i byth yn gwybod. Rydw i wedi mynd at gyn-ofalwr maeth ambell waith, ond dyw hi ddim wedi gofyn i fi eto eleni, felly gallwn i fod ar fy mhen fy hun ar Ddydd Nadolig. Byddwn i’n casáu hynny, yn enwedig gan fod arian yn dynn ar hyn o bryd.” 

Esboniodd Lorna Stabler, ‘gwesteiwr’ Cinio Nadolig a chydymaith ymchwil yng nghanolfan ymchwil CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd: 

“Pan fydd pobl ifanc yn cyrraedd 18 oed, maen nhw’n dal i fyw gartref gyda’u rhieni fel arfer, ac mae ganddyn nhw le i ddychwelyd iddo ar gyfer digwyddiadau fel y Nadolig. Am lawer o resymau, does gan bobl sydd â phrofiad o ofal ddim bob amser y man canolog yna – ac weithiau gallant deimlo fel ôl-ystyriaeth, eu bod yn amharu ar ddathliad rhywun arall, neu eu bod heb unrhyw le i fynd. Rydym am lunio digwyddiad Dydd Nadolig sy’n wirioneddol arbennig, ac yn dathlu’r gymuned ryfeddol sydd â phrofiad o ofal yma yng Nghymru.” 

Ychwanegodd Sally Holland, Athro Gwaith Cymdeithasol yng nghanolfan ymchwil CASCADE, Prifysgol Caerdydd: 

“Fydda i byth yn anghofio cwrdd ag oedolyn ifanc a soniodd wrthyf fi am dreulio cyfnod y Nadolig ar ôl gadael gofal maeth ar ei ben ei hun mewn ystafell wely, yn ofni synau yn y nos a heb wybod sut i ddelio â thap oedd yn gollwng. Mae llawer o ofalwyr maeth yn gwneud gwaith anhygoel yn croesawu’n ôl oedolion ifanc y buont yn gofalu amdanynt yn eu gorffennol, ond nid yw pawb yn gallu gwneud hynny.  Fyddwn i byth eisiau i’m plant fy hun fod ar eu pennau eu hunain adeg y Nadolig a dyna pam rwy’n gwirfoddoli gyda Chinio Nadolig Caerdydd.” 

Mae’r cinio a’r gweithgareddau wedi’u hysbrydoli gan giniawau tebyg mewn amrywiaeth o ddinasoedd yn Lloegr.  Dechreuwyd y mudiad gan y bardd enwog Lemn Sissay, sydd wedi ysgrifennu’n helaeth am ei brofiadau ei hun o dyfu i fyny mewn gofal. Gan mai Cinio Nadolig Caerdydd fydd y cinio cyntaf yng Nghymru, mae’r gwesteiwyr yn gobeithio, os bydd yn llwyddiant, y byddant yn gallu cefnogi gweithgareddau tebyg ar Ddydd Nadolig mewn rhannau eraill o Gymru yn y dyfodol. 

Gwahoddir gwesteion sydd â phrofiad o ofal, a fyddai fel arall ar eu pennau eu hunain ar Ddydd Nadolig, o radiws 30 milltir o Gaerdydd, a darperir cludiant ar eu cyfer. Byddant yn derbyn anrhegion, cinio a bydd y diwrnod yn llawn gweithgareddau hwyliog. Gallwch atgyfeirio pobl ifanc trwy lenwi’r ffurflen mynegi diddordeb hon.  

Mae’r gwirfoddolwyr yn codi arian ar gyfer y digwyddiad, a bydd yr arian a gasglir yng ngofal yr elusen gofrestredig Lleisiau o Ofal (VfC).  Maent hefyd yn chwilio am arlwywr ac anrhegion ac addurniadau o safon uchel ar gyfer y digwyddiad. Gall unrhyw un sy’n dymuno helpu e-bostio thecardiffchristmasdinner@gmail.com