Sbectrwm gofalwyr ifanc: Ymchwilio i’r boblogaeth ehangach i gael gwell dealltwriaeth a chefnogi’r rhai sydd â rolau gofalu sy’n peri problemau.

Cyflwynir gan: Dr. Ed Janes (Prifysgol Caerdydd)

Mae 30 mlynedd o ymchwil wedi astudio profiadau gofalwyr ifanc, plant sy’n gofalu am aelodau’r teulu oherwydd salwch neu anabledd, ac wedi amlygu’r effeithiau negyddol yn aml ar eu hiechyd, addysg a chyfleoedd cymdeithasol. Fodd bynnag, gyda llawer o ofalwyr ifanc a’u teuluoedd yn dymuno aros yn anhysbys i wasanaethau, mae’r rhan fwyaf o waith ymchwil wedi canolbwyntio ar y rhai sy’n cael mynediad at gymorth o ganlyniad i’r ffaith bod ganddynt gyfrifoldebau gofalu sylweddol. Bydd y seminar hon yn edrych ar yr angen i ymchwilio i’r sbectrwm ehangach er mwyn deall yn well pryd mae gofalu yn dod yn broblemus.

Bydd y sesiwn yn rhannu canfyddiadau astudiaeth ddoethurol a recriwtiodd ofalwyr ifanc o ysgolion yn ogystal â phrosiectau, gan alluogi sbectrwm ehangach i gymryd rhan. Amlygodd y canlyniadau brofiadau ac effeithiau ehangach y rhai a gymeridd ran, gyda llawer ohonynt â rheolaeth dros eu rolau sefydlog a’u cyfrifoldebau hylaw. Roedd eu rheolaeth yn cyferbynnu’n sylweddol â’r rhai a oedd â rolau gofalu hirdymor a chyfrifoldebau gormodol, ond yn enwedig y rheini â thasgau amhriodol a pherthnasoedd teuluol anodd.

Bydd y seminar hon yn cynnwys trafodaeth dan arweiniad ymarferwr ar y canfyddiadau, gan gynnwys a ddylai cymorth gael ei glymu i wahanol rannau’r sbectrwm, ond hefyd ai codi ymwybyddiaeth o’r grŵp mwy yw’r cam cyntaf i nodi’r rhai â rolau sy’n peri problemau.

Bydd y seminar hefyd yn ceisio casglu profiad cadarnhaol a negyddol ymarferwyr o gefnogi ac adnabod gofalwyr ifanc, ac a oes gan ymarferwyr iechyd ac addysg y cyngor a’r arweiniad sydd eu hangen i fodloni’r disgwyliadau cynyddol mewn polisïau a deddfwriaeth. Bydd deilliannau’r drafodaeth hon yn helpu i lywio ymchwil ar y pwnc hwn yn y dyfodol.